Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar Heol y Frenhines, Caerdydd, yn dilyn gêm Cymru a Lloegr ddydd Sadwrn wedi cyhuddo bachgen 16 oed o achosi niwed corfforol difrifol.
Cafodd dyn 26 oed o Aberpennar ei daro yn ei wyneb gan y llanc y tu allan i siop ddillad Envy am 5.30pm.
Dioddefodd y dyn anafiadau difrifol i’w ben ac aethpwyd ag ef mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’r dyn yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Cafodd y bachgen 16 oed o Gaerdydd ei arestio yn fuan a’i gadw yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd. Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ieuenctid Caerdydd yfory.
“Roedd gan yr ymosodiad ganlyniadau drwg i’r dioddefwr sydd mewn cyflwr difrifol o hyd,” meddai’r Ditectif Arolygydd Jeff Burton.
“Roedd llawer iawn o bobol yng Nghaerdydd i wylio’r pêl-droed ac rydyn ni’n gwybod bod nifer gerllaw pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
“Mae’n bwysig fod unrhyw un welodd yr ymosodiad neu unrhyw beth a arweiniodd at yr ymosodiad yn cysylltu â’r heddlu.
“Gallai unrhyw wybodaeth fod yn hollbwysig wrth i ni ddatrys y drosedd yma ac erlyn y troseddwr.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 02920 527420, neu 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.