Mae Michelle Obama, gwraig cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, wedi lladd ar yr Arlywydd Donald Trump mewn digwyddiad lle cafodd Joe Biden ei gymeradwyo fel ymgeisydd y Democratiaid i’w herio.

Hon oedd noson gyntaf Confensiwn Cenedlaethol y Democratiaid, a dywedodd fod yr arlywydd “dros ei ben a’i glustiau” yn sgil sawl argyfwng, ac mai gwaethygu fydd y sefyllfa pe bai’n parhau yn ei swydd.

“Donald Trump yw’r arlywydd anghywir ar gyfer ein gwlad,” meddai.

“Dydy e ddim yn addas yn yr eiliad hon.

“All e, yn syml iawn, ddim bod pwy mae angen arnom iddo fod.”

Y digwyddiad

Cafodd y digwyddiad, sydd fel arfer yn un mawreddog, ei gynnal dros y we, a Michelle Obama oedd y prif siaradwr.

Fe wnaeth Bernie Sanders, cyn-ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, hefyd gefnogi Joe Biden yn y ras, gan ddadlau na allai’r wlad oroesi tymor arall o dan Donald Trump.

Fe wnaeth e gefnogi cynllun iechyd Joe Biden, sy’n estyniad o gynllun Obamacare, er iddyn nhw anghydweld ynghylch y polisi yn y gorffennol.

Bydd Joe Biden yn derbyn yr enwebiad swyddogol yn Wilmington yn Delaware ddydd Iau (Awst 20), a bydd ei bartner etholiadol Kamala Harris yn annerch y blaid nos yfory (nos Fercher, Awst 19).