Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn ymateb i sawl achos o lifogydd yn Ystradgynlais, Cwmtwrch, Abercraf, Aberteifi ac Arberth.
Yn Ystradgynlais, bu criwiau Dyffryn Aman yn pwmpio dŵr o sawl eiddo ac yn symud preswylwyr i dir uwch.
Yn Abercraf, mae criwiau o Abercraf, Dyffryn Aman, Pontardawe a Blaendulais wedi bod yn cydweithio â’r heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans ac aelodau’r gymuned leol i sicrhau bod pawb yn cael eu cadw’n ddiogel.
Cwynion am ymateb Cyngor Ceredigion i’r llifogydd
Roedd sawl ardal yng Ngheredigion wedi eu heffeithio gan y llifogydd hefyd, a rhai o fusnesau Llanbedr Pont Steffan yn anhapus gyda’r gefnogaeth gawson nhw gan y Cyngor Sir.
Un dyn busnes sy’n anhapus yw Cerdin Price, ymgymerwr yn y dref sy’n berchen siop ar y stryd fawr.
“Ar ôl tywydd eithafol ac adrodd am lifogydd i Gyngor Sir Ceredigion yr wythnos diwethaf,” meddai ar Facebook.
“Gwrthodwyd eu cymorth i ni a chawsom ein hysbysu i ddelio â mater y llifogydd ein hunain. Er mai’r mater dan sylw oedd y draenio ar y stryd, dywedwyd wrthym mai ein mater ni oedd delio â hyn a’u bod yn gwrthod eu cymorth.
“Neithiwr am y trydydd tro mewn wythnos fe wnaethom ni ddioddef llifogydd yn ein heiddo o’r briffordd.
“Ac oherwydd esgeulustod y Cyngor wrth gynnal y systemau draenio cawsom ein gorfodi i alw’r frigâd dân i gynorthwyo ymhellach.
“Diolch i A&B am logi’r pwmp i ni a brigâd dân Llanbedr Pont Steffan am eu cymorth a’u hymateb cyflym. Gyda’n gilydd roeddem yn gallu osgoi difrod difrifol.
“Er, gydag ymyrraeth well gan y Cyngor, ni fyddai wedi bod angen y gwasanaethau hyn. Fel rhywun sy’n talu’r dreth cyngor, ni allaf weld sut nad oeddwn yn gallu cael cymorth gan y Cyngor drwy ddosbarthu bagiau tywod.
“Ac wrth i mi gerdded i’r gwaith y bore ‘ma, doedden i’n methu credu fod y Cyngor wedi dosbarthu bagiau tywod i gartrefi eraill neithiwr yn ystod y fflachlifoedd.
“Nid wyf yn gallu dirnad sut y gellir cyfiawnhau hyn.”
Rhybudd i gymryd gofal
“Oherwydd y glaw trwm a’r stormydd mellt sydd i’w disgwyl dros y dyddiau nesaf, anogwn bob gyrrwr i gymryd gofal ychwanegol ar y ffyrdd,” meddai Craig Flannery, rheolwr ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
“Peidiwch â gyrru drwy lifddwr.
“Drwy wneud hynny, rydych yn rhoi eich hun ac eraill mewn perygl diangen. Mae ond yn cymryd un droedfedd, neu 30cm, o ddŵr sy’n symud i arnofio eich car a chyn lleied â chwpanaid ŵy yn llawn o ddŵr i fynd i mewn i’ch peiriant, yn ddigon i’w ddifetha.
“Gall dŵr llifogydd fod yn dwyllodrus o bwerus – gall rwygo wyneb y ffordd yn llythrennol a gorchuddio gorchuddion caeadau a’r pafin – a gall ei ddyfnder a llif newid yn gyflym gyda’r tywydd.”