Mae llanc 15 oed wedi cael gorchymyn cymunedol am werthu tabledi ecstasi i fachgen 13 oed fu farw mewn parc yn Ystrad Mynach yn Sir Caerffili.

Roedd y llanc, nad oes modd ei enwi, yn 14 oed pan wnaeth e gyflenwi cyffuriau dosbarth A dros yr ap cymdeithasol Snapchat i Carson Price.

Daethpwyd o hyd iddo’n anymwybodol mewn parc ar ôl cymryd tri o’r tabledi gwyrdd DK oedd yn seiliedig ar y cymeriad Donkey Kong.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn ddiweddarach.

Plediodd y llanc yn euog yn Llys Ieuenctid Cwmbrân.

Fe wnaeth y llanc ymddiheuro yn y llys, gan ddweud ei fod e wedi bod “yn ffôl iawn”.

Erlyniad

Wrth gyflwyno dadleuon yn erbyn y llanc, dywedodd yr erlynwr Mike Williams ei fod e wedi trefnu i werthu tri o’r tabledi am £25 dros Snapchat cyn cyfarfod â Carson Price ger garej Texaco ar Ebrill 12 y llynedd.

Aeth Carson Price i’r parc wedyn a chynnig y tabledi i’w ffrindiau, ond fe wnaethon nhw eu gwrthod.

Dywedodd wrth ei ffrindiau ei fod e’n cymryd y tabledi “am mai dydd Gwener yw hi”, ac am ei fod e’n “hoffi’r wefr”.

Ond fe gafodd ei daro’n wael toc ar ôl 7 o’r gloch y nos, a chafodd ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod effaith y cyffuriau ar ei gorff yn gyfrifol am ei ladd.

Amddiffyniad

Clywodd gwrandawiad blaenorol fod y llanc wedi ceisio cael gafael ar ragor o gyffuriau ar ôl marwolaeth Carson Price.

Ond cafodd y gwrandawiad dedfrydu ei ohirio er mwyn paratoi adroddiad yn sgil y ffaith iddo fod â llafn yn ei feddiant pan gafodd ei arestio.

Dywedodd cyfreithwyr ar ei ran ei fod e’n derbyn canlyniadau’r hyn wnaeth e, a’i fod e wedi achosi “poen hirdymor nad oes modd ei mesur” ond ei fod e hefyd wedi dioddef “trawma” a’i fod yn “flin”.

Dedfrydu

Wrth ddedfrydu’r llanc, dywedodd fod ei oedran yn golygu nad oedd modd ei garcharu.

Mae’n destun gorchymyn am 12 mis a bydd yn rhaid iddo gwblhau rhaglenni adfer.

Ond dywedodd y barnwr y byddai’n ôl yn y llys pe bai’n troseddu o fewn y cyfnod hwnnw ac y byddai’r ddedfryd yn cael ei hadolygu.

Dywedodd teulu Carson Price nad yw’r ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd.

Mae dyn 22 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A wedi’i ryddhau dan ymchwiliad ers tro.