Mae Kirsty Williams wedi ymddiheuro’n “uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw” am yr helynt yn ymwneud â chanlyniadau Safon Uwch.
Aeth Ysgrifennydd Addysg Cymru gerbron Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Awst 18) i egluro’r sefyllfa.
“I’n pobol ifanc, yn union fel pawb arall, mae’r misoedd diwethaf wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfnod llawn straen,” meddai.
“Bydd nifer ohonom yn adnabod pobol sydd wedi bod yn sâl neu sydd wedi colli rhywun. Dw innau’n sicr.
“Ac mae wedi bod yn gyfnod o boen i bobol ar draws y wlad.
“Ac mae’n ddrwg gen i fod y broses ganlyniadau wedi gwneud hynny’n waeth i rai o’n pobol ifanc.
“Nid dyna bwriad neb, nid fi, nid Cymwysterau Cymru, nid athrawon, nid CBAC.
“Ond mae hi’n briodol fy mod i’n ymddiheuro’n uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw i’n pobol ifanc.
“Mae’r misoedd diwethaf wedi taflu i fyny heriau annisgwyl, newydd a chymhleth.
“Bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau a dylunio ffyrdd newydd o weithio ar gyflymdra eithriadol.
“Gan gydweithio â Cymwysterau Cymru a CBAC, fe wnaethon ni chwilio am ddull sy’n cynnig tegwch ac yn cydbwyso gwahaniaeth yn safonau barnu’r ysgolion.
“Ond, fel y gwnes i gyhoeddi ddoe ac o ystyried penderfyniadau mewn llefydd eraill, mae cydbwysedd tegwch bellach gyda graddau asesu canolfannau dyfarnu i fyfyrwyr.”