Mae cwmni peirianneg yng Nghwm Tawe wedi addasu’r ffordd mae’n gweithio er mwyn cynhyrchu masgiau.

Mae cwmni Brother ym Mhontardawe wedi derbyn cymorth o £250,000 gan Lywodraeth Cymru i barhau i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol.

Mae’r gefnogaeth ariannol yn rhan o Gronfa Gymorth COVID-19: Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.

Mae diwydiant cyfarpar diogelu personol Cymru bellach yn cynnwys 25 cwmni sy’n cynhyrchu feisorau wyneb, naw cwmni sy’n gwneud masgiau wyneb a chwe chwmni sy’n gwneud sgrybs meddygol.

‘Mynd i’r afael â’r coronafeirws’

“Ers dechrau’r pandemig rydyn ni wedi gweld busnesau ledled Cymru yn derbyn yr her o helpu pob un ohonon ni i fynd i’r afael â’r coronafeirws,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

“Mae ymdrechion busnesau Cymru wir wedi bod yn wych.

“Yn fras, mae llawer o gwmnïau wedi newid y ffordd maen nhw’n gweithio, ac yn hytrach na pharhau i wneud eu cynhyrchion arferol, maen nhw wedi bod yn arloesol wrth feddwl am ffyrdd o ddiogelu ac arbed bywydau rhag y feirws.

“Mae Brother yn enghraifft ragorol o’r ffordd mae busnesau wedi derbyn yr her. Mae gallu’r cwmni i gynhyrchu masgiau’n golygu bod ganddo rôl allweddol i’w chwarae wrth sicrhau cyflenwad cyson o gyfarpar diogelu personol yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.”

Ffatri newydd ym Mhontardawe

I hwyluso’r gwaith o gynhyrchu cyfarpar diogelu personol, mae Brother wedi agor ffatri newydd ym Mhontardawe.

Mae gan y ffatri y capasiti i gynhyrchu hanner miliwn o fasgiau wyneb bob dydd.

Mae disgwyl y bydd 20 o swyddi newydd yn cael eu creu.

“Rydyn ni wedi symud yn gyflym i sefydlu’r cyfleuster hwn,” meddai Blu Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Brother.

“Allen ni ddim bod wedi gwneud hyn heb gymorth gwych gan nifer o sefydliadau sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn, yn benodol Llywodraeth Cymru, y Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phrifysgol Caerdydd.

“Bydd Cymru mewn sefyllfa well i ymdrin ag unrhyw argyfwng yn y dyfodol.”