Mae cynlluniau ar y gweill i gau dau o fwytai Pizza Express yng Nghymru.

Mae disgwyl i fwytai’r cwmni yng Nghasnewydd a Wrecsam fod ymhlith 73 o fwytai fydd yn cae eu drysau.

Y bwriad yw lleihau costau’r cwmni drwy drefniant gwirfoddol, a allai arwain at golli hyd at 1,100 o swyddi.