Mae Joe Biden wedi ei enwi’n ymgeisydd arlywyddol swyddogol y Democratiaid.

Derbyniodd e gefnogaeth gan gyn-Arlywyddion yr Unol Daleithiau, Bill Clinton a Jimmy Carter, a’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol Colin Powell.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal fis Tachwedd.

Cafodd y digwyddiad, sydd fel arfer yn un mawreddog, ei gynnal dros y we.

‘Anhrefn yn y Tŷ Gwyn’

“Mae Donald Trump yn dweud ei fod yn arwain y byd,” meddai Joe Biden mewn fideo dros y we.

“Wel, ni [yr Unol Daleithiau] yw’r unig economi ddiwydiannol fawr sydd â chyfradd ddiweithdra driphlyg.”

“Ar adeg fel hon, dylai Swyddfa’r Tŷ Gwyn fod yn arwain ein gwlad, yn hytrach na bod yn ganolbwynt i’r storm.

“Does dim byd ond anhrefn yno.”

Ar ôl sefyll i fod yn arlywydd yn 1988 a 2008, dyma’r trydydd tro i Joe Biden ymgeisio i fod yn arlywydd.

Bu’n Ddirprwy Arlywydd i Barack Obama.

Ymgyrch Donald Trump

Yn y cyfamser, mae’r Arlywydd Donald Trump yn parhau i ymgyrychu wrth ymweld ag Arizona ger y ffin â Mecsico.

Mae’n honni y byddai arlywyddiaeth Joe Biden yn arwain at “lifogydd o fewnfudo anghyfreithlon fel na welodd y byd erioed”.

Ar hyn o bryd, mae Donald Trump y tu ôl i Joe Biden yn yr arolygon barn.