Mae’r swyddfa dywydd yn Iwerddon wedi enwi storm fydd yn taro’r wlad nos Fercher (Awst 19).

Bydd Storm Ellen, sy’n cynnwys gweddillion storm drofannol Kyle, yn symud o gyfeiriad yr Iwerydd ac yn taro Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Mae disgwyl i effeithiau’r storm hefyd gael eu teimlo mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.

Mae rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion o hyd at 50mya wedi’i gyhoeddi yng Ngogledd Iwerddon.

Yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae Swyddfa Dywydd Iwerddon, Met Éireann, wedi cyhoeddi rhybudd oren – yr ail lefel uchaf – ar gyfer gwyntoedd i siroedd y de orllewin.

Dyma’r storm gyntaf i gael ei henwi ers storm Dennis a darodd rannau o wledydd Prydain fis Chwefror.

Mae disgwyl amodau tawelach erbyn y penwythnos.