Fydd Geraint Thomas na Chris Froome ddim yn chwarae unrhyw ran yn y Tour de France eleni ar ôl cael eu gadael allan o dîm Ineos.

Ennillodd Geraint Thomas y ras yn 2018, ac roedd Chris Froome yn fuddugol yn 2013, 2015, 2016 a 2017.

Roedd y ras i fod i gael ei chynnal yn wreiddiol rhwng Mehefin 27 a Gorffennaf 19, ond cafodd ei gohirio tan ddiwedd mis Awst yn sgil y coronafeirws.

Mae disgwyl i Egan Bernal arwain tîm Ineos eleni ochr yn ochr â Richard Carapaz.

Mae tîm wyth dyn Ineos ar gyfer y Tour de France hefyd yn cynnwys y Cymro Luke Rowe.

Bydd Geraint Thomas yn arwain y tîm yn ras y Giro, tra bydd Chris Froome yn arwain ras y Vuelta a Espana.

‘Braf cael cynllun cadarn yn ei le’

Eglura Geraint Thomas ei bod hi’n “braf cael cynllun cadarn yn ei le, a gwybod beth yn union mae pobol yn ei wneud”.

Y tro diwethaf i’r Cymro rasio yn ras y Giro oedd yn 2017.

“Yn 2017 roeddwn i mewn siâp gwych,” meddai.

“Nid yn annhebyg i 2018 pan enillais y Tour, ond daeth y Giro i ben yn wael y flwyddyn honno o ganlyniad i’r ddamwain.

“Dwi wedi bod eisiau dychwelyd yno ers hynny.“Dwi bob amser wedi mwynhau rasio yno, dwi’n mwynhau’r Eidal, y ffyrdd, y cefnogwyr… a’r bwyd yn amlwg.”