Bydd tîm pêl-droed Cei Connah yn wynebu Sarajevo yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr heno (nos Fercher, Awst 19).

Bydd y gêm yn cael ei chynnal y tu ôl i ddrysau caëedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan fod y stadiwm yn cydymffurfio â rheolau Covid-19 UEFA.

Dyma’r tro cyntaf i Gei Connah chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Bydd enillwyr y gêm heno yn chwarae oddi cartref yn erbyn Dynamo Brest o Belarws yn yr ail rownd yr wythnos nesaf.

Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru

Ennillodd tîm pêl-droed Cei Connah Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn y penderfyniad i ddirwyn y tymor i ben yn sgil y coronafeirws.

Roedd Y Seintiau Newydd, oedd yn yr ail safle ar y pryd, wedi dwyn achos yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru gan ddadlau nad oedd “rhesymeg y tu ôl i ddewis pencampwyr ar sail mathemateg”.

Ond yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys, cafodd Cei Connah eu henwi’n bencampwyr.