Emily Thomas oedd y fabolgampwraig cyntaf i ailddechrau hyfforddi yn rheolaidd pan gafodd cyfyngiadau’r coronafeirws eu llacio, a hynny yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.
Ond doedd hi ddim yn hawdd i’r ferch ifanc 19 oed o Ben-y-bont ar Ogwr aeth i Ysgol Llanhari yn y Rhondda. Yn ystod y clo mawr roedd ei dwylo wedi meddalu – fel rheol mae gan gymnastwyr ddwylo caled, sy’n dod gydag ymarfer rheolaidd ac sy’n eu galluogi i osgoi cael swigod.