Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi croesawu penderfyniad “cadarnhaol” yr Uchel Lys heddiw (13 Gorffennaf) sydd wedi cadarnhau Cei Connah fel pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru.
Daw hyn wedi i’r Seintiau Newydd ddwyn achos yn erbyn y gymdeithas yn sgil cwtogi tymor 2019/20 o gynghrair Cymru Premier oherwydd pandemig y coronafeirws.
Roedd Y Seintiau Newydd, oedd yn yr ail safle ar y pryd, wedi dwyn achos yn erbyn y gymdeithas gan ddadlau nad oedd yno “resymeg tu ôl i ddewis pencampwyr ar sail fathemategol”.
Ond yn sgil penderfyniad yr Uchel Lys heddiw, mae Cei Connah wedi cael eu cadarnhau fel pencampwyr.
“Gweithredu’n briodol”
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o’r dyfarniad heddiw ac o’r gydnabyddiaeth fod Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweithredu’n briodol yn y cyfnod digynsail hwn er mwyn gwarchod buddion pêl-droed yng Nghymru,” meddai datganiad gan y Gymdeithas.
“Nid oedd unrhyw benderfyniad yn hawdd i’r Bwrdd o dan amgylchiadau eithriadol. Roedd eu penderfyniadau wedi’i gwneud yn ddidwyll ac nid yn seiliedig ar fuddiannau unrhyw glwb penodol, ond yn hytrach er budd ehangach y gymuned pêl-droed”.
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod bellach yn “edrych ymlaen” at fwrw ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer ailddechrau pêl-droed yng Nghymru.