Mae Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud na fydd y chwarae yn pwdu ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Leeds yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 12).

Sgoriodd Pablo Hernandez, cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, unig gôl y gêm ar ôl 88 munud wrth i Leeds daro ergyd i obeithion yr Elyrch o gyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae’r canlyniad yn erbyn y tîm ar y brig yn gadael yr Elyrch yn seithfed yn y Bencampwriaeth gyda thair gêm yn weddill o’r tymor estynedig.

Treuliodd y Sbaenwr Pablo Hernandez ddau dymor gyda’r Elyrch o 2012 i 2014, ac fe rwydodd e yn dilyn croesiad gan Luke Ayling i fynd â’i dîm yn nes at ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair ar ôl 16 o flynyddoedd.

Bydd y canlyniad yn chwerwfelys ar yr un pryd i Leeds, sy’n galaru yn dilyn marwolaeth Jack Charlton ac fe gafwyd munud o dawelwch a chymeradwyaeth cyn y gic gyntaf er teyrnged iddo fe.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Leeds yn Abertawe ers 1964, ac roedd Jack Charlton yn aelod o’r tîm y diwrnod hwnnw.

Ymateb yr Elyrch

“Os yw unrhyw un eisiau pwdu, gallan nhw adael,” meddai’r capten Matt Grimes.

“Mae popeth yn y fantol i ni wrth chwarae.

“Awn ni’n syth ymlaen i’r gêm nesaf oddi cartref yn Nottingham a gweld lle’r awn ni.”

Er ei fod e wedi siomi yn sgil y canlyniad, dywed y rheolwr Steve Cooper fod y perfformiad wedi ei blesio.

“Roedden ni’n teimlo’n gyfforddus yn y gêm, er eu bod nhw wedi cael mwy o gyfleoedd amlwg na ni,” meddai.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi mynd i lefydd cystal â nhw, felly rydyn ni’n amlwg wedi siomi o ildio mor hwyr.

“Mae’n anodd i’w chymryd, ond rhaid i ni ddod drosti’n gyflym oherwydd mae pwyntiau i’w hennill o hyd.

“Hyd yn oed pe baen ni wedi cael gêm gyfartal heddiw, byddai’n rhaid ein bod ni wedi ennill pwyntiau yn y gemau sy’n weddill beth bynnag.

“Siomedig, ydy, ond roedd tipyn o bethau da ym mhob agwedd ar y perfformiad.”