Mae haen newydd sydd wedi’i chyflwyno yng nghynghreiriau Pyramid Pêl-droed Cymru yn peri penbleth yn ddaearyddol – ond mae’n “gwneud mwy o synnwyr ar y map” nac ar bapur, yn ôl colofnydd pêl-droed Golwg, Phil Stead.
Daeth cadarnhad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru echdoe (dydd Gwener, Gorffennaf 10) ynghylch pwy yw’r 64 tîm fydd yn cystadlu mewn pedair cynghrair yn dilyn ceisiadau gan 84 o glybiau i fod yn rhan o’r drefn newydd.
Bydd y drefn newydd yn dod i rym ar gyfer dechrau tymor 2020-21.
O blith yr 84 o geisiadau, mae chwe thîm wedi cael eu dyrchafu i Haen 2, sef Hotspur Caergybi, Treffynnon, Llanidloes, Port Talbot, Rhisga a Threfelin.
Gwnaeth Bangor 1876, Llanfair-ym-Muallt a Hawarden wneud cais ar gyfer lle yn Haen 3 hefyd – ond roedden nhw’n aflwyddiannus.
Dosbarthwyd y 75 clwb sy’n weddill gais i bedair cynghrair o 16 tîm yr un, yn ôl eu safon a’u daearyddiaeth, gyda dwy gynghrair yn y gogledd a dwy yn y de, gyda’r canolbarth yn cael ei rannu rhyngddynt.
Yn sgil y drefn newydd, fe fydd timau yn ardal Aberystwyth a Machynlleth, er enghraifft, yn cystadlu yng nghynghrair y gogledd-ddwyrain.
Ymateb
Wrth ymateb ar Twitter, mae nifer o sylwebyddion a chefnogwyr yn ceisio dyfalu sut y cafodd y timau eu dosbarthu i’r gwahanol ardaloedd.
“Mae strwythur Haen 3 newydd @CymruLeagues yn gosod timau Wrecsam a hyd yn oed Saltney (ger Caer) yn Adran y Gogledd-Orllewin, gyda chlybiau Aberystwyth yn chwarae yn Adran y Gogledd-Ddwyrain,” meddai Phil Stead.
“Ond mae’n rhaid bod yna reswm dros hynny. Atebion ar gerdyn post.”
Yn ôl Twm Owen, bydd y strwythur newydd yn golygu cryn deithio i rai timau i rannau eraill o Gymru.
“Fe welais i rywun yn awgrymu y dylid newid enwau’r adrannau hynny,” meddai.
“Mae Adran y Dwyrain yn ymddangos yn fwy fel canolbarth Cymru mewn gwirionedd.
“Yn y de, mae Llandrindod a Rhaeadr yn adran Gwent.
“Mae teithio a’r pellter wir yn sefyllfa peg sgwâr mewn twll crwn.”
‘Edrych yn rhyfedd, ond mwy o synnwyr ar fap’
Er bod y cynghreiriau ar bapur yn edrych yn rhyfedd, maen nhw’n gwneud mwy o synnwyr wrth edrych ar fap, yn ôl Phil Stead:
“Yn ddaearyddol, mae yn edrych yn rhyfedd y tro cynta’ wyt ti’n edrych ar y rhestr,” meddai.
“Ond unwaith ti’n gweld nhw ar y map, mae yn gwneud mwy o synnwyr.
“Dw i’n teimlo piti dros y rhai yn y canolbarth sy’n teithio yn bob man. Ond mae pob clwb yn Haen 3 yn gorfod teithio.
“Does dim ffordd hawdd rownd y peth, maen nhw wedi gwneud y job orau maen nhw’n gallu gwneud efo’r system newydd.
“Y bwriad efo’r haen yna ydi bod y clybiau sydd yn chwarae ar y lefel yna efo uchelgais i fynd yn uwch.
“Yng Nghymru, yn anffodus, mae hynna’n golygu lot o deithio – dim y milltiroedd yw’r broblem yng Nghymru, ond strwythur y ffyrdd, y ffaith sgynnon ni ddim lonydd da i fyny ac i lawr.
“Felly mae yn mynd i fod yn gostus i glybiau, mae hwnna’n rywbeth mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar a rhoi pwysau arnyn nhw i godi mwy o bres i ddal i fynd.”
“Wedi llwyddo’n barod”
Yn ôl Phil Stead, mae’r drefn newydd “wedi llwyddo’n barod”.
“Mae pob clwb sydd yn chwarae yn y tair haen rwan wedi gwella’u hadnoddau,” meddai.
“Roedd angen gwneud. Roedd rhai o’r clybiau’n deud, ‘Dan ni ddim angen eisteddle am gant o bobol gan taw dim ond rhyw ugain o bobol sy’n dod i weld ni’n chwarae’.
“Ond be’ mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn gofyn ydi, ydi hynny oherwydd diffyg andoddau a chyfleusterau?
“Dw i’n rywun sydd yn gwylio lot o gemau ar y lefel yna ac mae’r teithio’n rhan o’r penderfyniad i fynd i weld gêm neu ddim… ac os mae’n bwrw glaw, mae’n fwy tebygol fydda i’n mynd i ryw gae i watsio rhyw dîm sydd efo eisteddle sydd efo to.
“A rwan bod pob tîm sydd ar yr haen yna efo eisteddle efo to, mae’n well i bawb.
“Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi bod yn dda iawn yn cefnogi clybiau efo grantiau i gyrraedd y lefel yna.”