“Ras am y gemau ail gyfle yw’r hyn mae pawb eisiau ei gweld” yn ôl Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn Leeds yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 12).

Mae’r Elyrch yn y seithfed safle, un safle ac un pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle a Chaerdydd sy’n chweched, gyda phedair gêm yn weddill.

Maen nhw’n anelu am dair buddugoliaeth o’r bron, yn dilyn chwe phwynt gwerthfawr yn erbyn Sheffield Wednesday a Birmingham yn eu gemau diwethaf.

Mae Leeds, yn y cyfamser, ar y brig â’r un nifer o bwyntiau a West Brom, wrth i’r ras am y tlws boethi hefyd.

“Dyma’r hyn rydyn ni i gyd eisiau bod yn rhan ohoni – ras am y gemau ail gyfle wrth dynnu tua’r terfyn yw’r hyn mae pawb eisiau ei gweld a bod yn rhan ohoni,” meddai Steve Cooper.

“Mae gyda ni bopeth i edrych ymlaen ato.

“Dw i’n credu ein bod ni’n gwneud rhai pethau da.

“Dw i ddim yn meddwl bod rhyw lawer wedi newid ar y cae ymarfer ers y diwrnod cyntaf, mewn gwirionedd.

“Rydyn ni’n credu yn y ffordd rydyn ni’n gweithio a’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Fe wnawn ni gadw at hynny.

“Wrth gwrs fod rhaid esblygu ac addasu pethau o bryd i’w gilydd, ond awn ni fyth yn rhy uchel nac isel ein hysbryd.

“Dim ond tair gêm yn ddi-guro yw hi, ac os nad ydych chi’n mynd â hynny i mewn i’r pedair gêm sy’n weddill, gall olygu ychydig iawn yn y pen draw.

“I ni, mae’n fater o barhau i adeiladu ar rai o’r pethau sy’n digwydd ar hyn o bryd.”

Tîm Abertawe

Mae’r asgellwr Jordon Garrick ar gael unwaith eto ar ôl dychwelyd yn dilyn gwaharddiad o dair gêm wedi’r garden goch yn erbyn Luton.

Mae disgwyl i’r amddiffynwyr canol Ben Cabango a Mike van der Hoorn gael profion ffitrwydd, a’r disgwyl yw mai ar y fainc fydd Mike van der Hoorn.

Mae Ben Wilmot a Joe Rodon allan am weddill y tymor.