Mae’r prop Tomas Francis yn wynebu dyfodol ansicr yng nghrys Cymru ar ôl ymrwymo i Gaerwysg (Exeter).
Dim ond 48 o gapiau sydd gan y Cymro, sy’n golygu ei fod e 12 cap yn brin o’r 60 sy’n ofynnol ar gyfer chwaraewyr y tîm cenedlaethol sy’n ymestyn eu cytundebau i chwarae i glybiau y tu allan i Gymru.
Mae’n un o 30 o chwaraewyr sydd wedi ymrwymo i’r clwb.
Francis yw’r chwaraewr diweddaraf i godi amheuon am ei ddyfodol rhyngwladol, yn dilyn Owen Williams a Hadleigh Parkes.
Roedd ei gytundeb yn dod i ben yn 2021, ond fe fydd cap ar gyflogau’n cael ei gyflwyno’r flwyddyn nesaf, sy’n golygu bod y clwb wedi dal eu gafael yn gynnar ar rai o’u chwaraewyr mwyaf blaenllaw.
Doedd e ddim ar gael i Gymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a ddaeth i ben yn gynnar yn sgil y coronafeirws, a hynny yn dilyn llawdriniaeth ar ei ysgwydd ar ôl cael ei anafu yng Nghwpan y Byd yn yr hydref.
Yn ôl ei gytundeb blaenorol, roedd ganddo fe gymal oedd yn ei alluogi i chwarae dros Gymru er gwaetha’r rheol 60 cap, a hynny am ei fod e wedi ei lofnodi cyn i’r rheol gael ei chyflwyno.
Un arall o Gymru sydd wedi ymrwymo i’r clwb yw’r cyn-asgellwr rhyngwladol Alex Cuthbert.