Mae Cymro Cymraeg o Drefach wedi bod yn siarad â golwg360 am deithio’r holl ffordd o Lahore i Fanceinion ac yn ôl heb adael Cwm Gwendraeth fel rhan o ymgais i godi arian at sawl elusen yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws.

Mae Jeff Evans yn un o 33 o ddyfarnwyr criced proffesiynol sy’n cymryd rhan yn y First-Class Walk, wrth iddyn nhw gerdded, rhedeg neu seiclo cyfanswm o 9,436 o filltiroedd gyda’i gilydd – y pellter o’r cae criced yn Stadiwm Gaddafi i’r cae criced yn Old Trafford.

Maen nhw eisoes dros hanner ffordd.

Wrth i’r tymor criced ar lawr gwlad ddechrau yn Lloegr o heddiw a’r paratoadau barhau yng Nghymru i ddechrau o ddydd Llun (Gorffennaf 13), mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn annog clybiau, cricedwyr ac unigolion i ymgymryd â’r her, a’i chwblhau hi rhwng nawr a’r dyddiad pan fydd y dyfarnwyr yn ei chwblhau hi.

“Gaethon ni wahoddiad i wneud rhyw siort o waith gydag elusennau fel grwp o ddyfarnwyr i gadw’n hunain at ein gilydd tra bo ni dan y furlough a’r lockdown,” meddai Jeff Evans wrth golwg360.

Y daith

“Rhoddodd un o’r rheolwyr syniadau i ni rownd y ffaith tasen ni wedi bod yn dyfarnu o fis Mawrth i fis Medi, bydden ni wedi cyfro tua 10,000 o filltiroedd yn y canol.

“Rhyngon ni, ni’n gwneud 1,000 o filltiroedd y dydd a gobeithio os bydd e’n mynd fel mae e wedi bod yn mynd, byddwn ni’n gorffen erbyn diwedd y mis a byddwn ni wedi codi swm sylweddol o arian.

“Mae shwd gymaint o bethau’n cael eu gwneud ledled y wlad ac ro’n ni moyn gwneud rhywbeth oedd yn gysylltiedig gyda chriced, a benderfynon ni yn ein grwpiau i edrych am ffordd gallen ni ddefnyddio’r swm hyn o filltiroedd a chodi arian i elusennau wrth bo ni’n mynd ymlaen.

“Penderfynon ni edrych ar beth oedd y pellteroedd o’r gwahanol gaeau criced dramor, a daethon nil an â’r syniad bod y Gaddafi Stadium yn Lahore i Old Trafford ym Manceinion a nôl tua 9,500 o filltiroedd.

“Wedyn penderfynon ni ar elusennau’r British Asian Trust sy’n gysylltiedig â’r ECB, Elusen y Cricedwyr sy’n gofalu am gricedwyr sydd wedi gorffen ac sy’n chwarae nawr yn edrych ar ôl eu gyrfaoedd nhw, a chancr y prostad gan fod un o’n dyfarnwyr ni wedi godde’ o’r cancr ac wedi llwyddo i ddod drosto fe, diolch byth.

“Penderfynon ni wedyn y bydden ni’n cyfro’r milltiroedd naill ai’n cerdded, rhedeg neu’n seiclo o Lahore i Fanceinion, ei wneud e mor glou ag y gallwn ni a gobeithio codi arian i’r elusennau tra bo ni ma’s yn gweithio.

“Smo i’n rhedeg rhagor a smo i’n credu bod lot yn rhedeg. Mae lot yn chwarae golff ac yn gwneud eu milltiroedd nhw drwy gerdded ar y cwrs golff.

“Fi’n bersonol, fi wedi joio mynd ma’s am wâc ac os oes mwy o amser gyda fi, fi’n joio mynd ma’s ar y beic hefyd, a fi’n gobeithio seiclo gyda chwpwl o’r bois o’r pentref yn Drefach i’r stadiwm yng Nghaerdydd gan fod Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced  Morgannwg yn gyn-lywydd Elusen y Cricedwyr.”

Y filltir sgwâr

Fel rhan o’r her, mae Jeff Evans wedi bod yn recordio cyfres o fideos sy’n cael eu postio i’r cyfryngau cymdeithasol wrth iddo grwydro’i fro enedigol yn adrodd am hanes yr ardal.

“Mae Nigel Owens wastad yn siarad ambwyti Mynyddcerrig ar y teledu neu yn y wasg ac mae’n meddwl y byd iddo fe hefyd,” meddai.

“Yr un peth gyd fi, mae’r filltir sgwâr yn meddwl lot i fi, ac mae’n neis dod adre’ i Drefach ambell waith ac yn neis i fynd i lefydd fel Lord’s ac Old Trafford ac i deithio’r byd, ond nôl i’r filltir sgwâr sydd orau, a watsio gêm fach o griced yn Drefach a’r cae rygbi lan yn y Tymbl.

“Fi’n dal i ddyfarnu nawr yn y pentre’. Os wy’n digwydd bod gartre’ dros y penwythnos a bod gêm griced – yn anffodus eleni, does dim criced wedi bod – ond os ydw i ar gael… Fi’n byw ochr draw i’r cae, so mae hwnna’n help.”

Fideo yn Gymraeg

Yn ystod y daith, mae Jeff Evans, sy’n gyn-athro, wedi mynd ati i greu un fideo yn arbennig yn y Gymraeg, yn adrodd hanes ardal yr Ysgol Ramadeg yng Nghwm Gwendraeth.

“Fi’n lwcus bo fi’n byw yng Nghwm Gwendraeth le mae shwd gymaint o lwybrau i fynd i gerdded, a shwd gymaint o lefydd i fynd heb draffig ac yn y blaen.

“Mae cestyll gyda ni fan hyn, yng Nghydweli a lan tua Charreg Cennen a phob man yng Nghymru, fwy neu lai.

“Wnaetho i bach o sbort am ben Neil [Bainton, cyd-ddyfarnwr sy’n byw yn Essex] a dweud bo fi ddim yn gwybod faint o gestyll sy’ ar y main road ar y ffordd lawr i Asda yn Essex!

“Dyna un o’r rhesymau ni’n gwneud e, mae pob un o’r 33 ohonon ni’n dod ymlaen yn dda gyda’n gilydd. Ni’n eitha’ agos fel grŵp ac ry’n ni i gyd yn daer i gyfrannu rhywbeth at y daith hyn a chodi cymaint o arian ag y gallwn ni.”

Y Gymraeg yw iaith y daith

“Mae’n iaith gynta’ i fi,” meddai am ei gariad at y Gymraeg.

“Gofynnydd Paul Baldwin, sy’n trefnu’r dyfarnwyr ar y daith, ‘Is there a chance you could do something in Welsh?

“O’n i ddim wedi cymryd selfie nac wedi cymryd llun nes bod un o’r bois wedi dangos i fi shwd i wneud e.

“Digwydd bod, fi’n byw ryw chwarter milltir o’r Gwendraeth ac o’n i’n meddwl ’run man i fi gered trwy Gwm Gwendraeth le o’n i’n dysgu, a gwneud rhyw fideo yn Gymraeg a rhoi rhywfaint o hanes yr Ysgol Ramadeg hefyd.

“Fi’n credu daeth hwnnw drosodd yn olreit. Dwi ddim ar Twitter, rhaid cyfaddef, ond maen nhw’n dweud wrtha’ i bod miliwn o bobol wedi edrych ar rai o’r fideos.

“Mae’n anodd credu i fi.”

Dyfarnu’n waith corfforol

Yn ôl Jeff Evans, mae’r argraff nad yw dyfarnu’n waith corfforol yn un anghywir, wrth iddo orfod sefyll a chanolbwyntio’n feddyliol am oriau bob dydd.

“Tasen i’n cael ceiniog bob tro mae rhywun yn gofyn…. Mae sawl un wedi dweud gallen nhw byth â sefyll ar eu traed am chwech neu saith awr y dydd a dim ond cered nôl a ’mlaen o’r sgwâr i’r wiced a nôl.

“Ond oes, mae eisie rhywfaint o waith cered arnoch chi, wrth gwrs fod e, ac mae eisie ffitrwydd y meddwl hefyd.

“Mae lot o waith meddwl, mae’n amser hir yn y canol, chwech neu saith awr yn aml, a gyda’r gêm ugain pelawd, rhaid bo chi’n ystwyth ar eich traed hefyd a bo chi’n symud yn glou i osgoi’r bêl achos maen nhw’n bwrw’r bêl lot mwy caled nawr na beth o’n nhw a’r unig fan ar y cae does dim maeswyr yw tu ôl y wiced ac maen nhw’n iwso ni fel targed yn aml!

“Fi’n lwcus yn bersonol achos bo fi nôl yn Drefach ac mae ‘na gampfa fach gyda fi yn y tŷ ac os yw’r tywydd yn wael, galla i jwmpo ar y beic yn y gampfa. Mae beic ‘da fi, peiriant rhwyfo, pwysau ac yn y blaen.

“Fi’n un sydd wedi trio cadw’n heini dros y blynydde.

“Mae e i gyd yn ychwanegu at y milltiroedd a gynted i gyd, gorau i gyd orffennwn ni’r daith yma a chodi cymaint o arian ag y gallwn ni i’r elusennau.”