Bydd rhaglen newydd werth hyd at £9.5m yn lleihau ôl troed carbon y tai cymdeithasol presennol yng Nghymru, yn gwneud biliau ynni yn haws i breswylwyr eu talu ac yn rhoi cyfleoedd newydd ar gyfer swyddi a hyfforddiant, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, sy’n rhan o’r Rhaglen Tai Arloesol, yn darparu arian ar gyfer gosod mesurau defnyddio ynni’n effeithlon mewn hyd at 1,000 o gartrefi sy’n eiddo i landlordiaid tai cymdeithasol a chynghorau.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y pecyn buddsoddi’n arwain at gartrefi gwell, yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio.

Lansio’r rhaglen

Lansiodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) yn ystod ymweliad â Craig Cefn Parc yn Abertawe.

Mae’r cynllun ôl-osod hwn, sy’n cynnwys chwe byngalo Cyngor Abertawe o’r 70au, yn treialu dull o leihau biliau ynni preswylwyr, gwneud tenantiaid yn fwy cyfforddus a lleihau allyriadau carbon.

Bydd yr ORP yn helpu’r sector i brofi gwahanol ddulliau o gyrraedd y nod o fod yn garbon niwtral.

Bydd yn cynnwys cystadleuaeth arloesi – sy’n agor fis nesaf – i gefnogi’r broses o dreialu atebion newydd arloesol ar gyfer ôl-osod ein stoc tai.

Bydd y wybodaeth a’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn dylanwadu ar ddyfodol Safon Ansawdd Tai Cymru fel bod modd i bawb sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasol elwa o filiau ynni llai a chartrefi cynhesach, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.

Mae’r ORP yn rhan allweddol o’r Rhaglen Tai Arloesol gwerth £45m a gafodd ei gyhoeddi’n gynharach eleni, sy’n canolbwyntio ar adeiladu cartrefi carbon niwtral newydd gan ddefnyddio dulliau modern o adeiladu, a bydd y cynllun yn cyfrannu at gynlluniau i leihau nwyon tŷ gwydr 95% erbyn 2050, gydag uchelgais i gyrraedd sero net yn y dyfodol.

Effeithlonrwydd

“Mae pandemig y coronafeirws wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cartref cynnes, diogel a fforddiadwy yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae wedi dangos effaith bositif lleihau nwyon tŷ gwydr,” meddai Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

“Mae tai yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru a 15% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr ymhlith defnyddwyr.

“Er bod gennym gynlluniau i sicrhau bod cartrefi newydd yn cael eu gwresogi ac yn derbyn ynni o ffynonellau ynni glân yn unig, mae’n hanfodol sicrhau bod ein stoc tai presennol yn defnyddio ynni mor effeithlon â phosibl os ydym i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr 95% erbyn 2050.

“Mae’r cynllun hwn yn hanfodol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac i leihau costau ynni cartrefi nawr ac yn y dyfodol. Mae’n helpu pobl, gan gynnwys y rhai hynny ar incwm is, i leihau eu biliau tanwydd tra’n cadw eu cartrefi yn gynnes.”

Dywed Ken Skates, Gweinidog yr Economi, y bydd ôl-osod cartrefi yn cynnig swyddi a hyfforddiant o safon yng nghanol ein cymunedau.

“Er mwyn helpu i sbarduno arloesi ac i greu cadwyn gyflenwi yng Nghymru, byddwn yn lansio cystadleuaeth i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am gyllid ymchwil ac arloesi ym mis Medi,” meddai.