Mae gweithwyr siop yng Nghymru wedi bod yn siarad am drais, bygythiadau a chamdriniaeth wrth i undeb gweithwyr siopau USDAW lansio deiseb yn galw am gyfraith i’w hamddiffyn.
Ddoe (dydd Mawrth, Awst 18), lansiodd Paddy Lillis, arweinydd undeb llafur adwerthu, ddeiseb seneddol yn galw am ddeddfwriaeth i amddiffyn gweithwyr siop rhag bygythiadau a chamdriniaeth o drais.
I gefnogi’r ddeiseb, sydd wedi’i chyflwyno ar wefan y Senedd, mae gweithwyr siop o Gymru wedi bod yn siarad am eu profiadau eu hunain wrth alw ar y Llywodraeth i ddeddfu er mwyn amddiffyn gweithwyr siopau.
Daeth arolwg diweddaraf USDAW i’r casgliad, er bod achosion o drais, bygythiadau a chamdriniaeth eisoes yn codi, eu bod nhw wedi dyblu yn ystod pandemig Covid-19.
Cwsmeriaid yn achosi problemau
“Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn iawn,” meddai un gweithiwr siop yn y canolbarth.
“Mae gen i o leiaf ddau neu dri y dydd sy’n ddigywilydd, wedi taflu cardiau banc ac arian ataf fi. Roedd gen i gwsmer yn dweud wrtha i fod ganddi’r firws ac yn peswch yn fy wyneb.”
Dywedodd un arall yn y gogledd ei bod wedi cael cwsmeriaid yn dweud bod ganddyn nhw Covid-19 ac yn peswch yn ei hwyneb oherwydd iddyn nhw gael cais i sefyll y tu ôl i linell wedi’i marcio.
“Wedi cael gwybod i ‘ff** off’ sawl gwaith, fel arfer ar ôl gofyn am ID, a hefyd wedi cael rhywun yn ceisio dwyn wrth ddal cyllell.”
Yn y de, dywedodd siopwr fod cwsmeriaid yn gwbl amharchus o ganllawiau a phan fyddan nhw’n cael eu herio yn troi’n ymosodol.
“Yn ystod y gostyngiadau terfynol am y diwrnod, mae cwsmeriaid yn eich gwthio chi allan o’r ffordd ac yn cael eich ffilmio yn y gwaith a bygwth cael eich postio ar draws Facebook,” meddai un gweithiwr yn y gorllewin.
Haeddu mwy o barch
“Mae’n dorcalonnus clywed y tystiolaethau hyn gan weithwyr siopau sy’n haeddu llawer mwy o barch nag y mae’n nhw’n ei gael,” meddai Paddy Lillis, ysgrifennydd cyffredinol USDAW.
“Ni ddylai cam-drin fod yn rhan o’r swydd o gwbl ac rydym yn arswydo bod trais, bygythiadau a chamdriniaeth wedi dyblu yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn.
“Mae diogelwch ein haelodau yn gwbl hanfodol, ond mae’n nhw’n dweud wrthym fod rhai o’r cyhoedd sy’n siopa yn gwrthsefyll mesurau diogelwch mewn siopau ac yn gallu bod yn ddifrïol pan ofynnir iddyn nhw giwio, yn cynnal ymbellhau cymdeithasol neu’n cael eu hatgoffa i wisgo mwgwd wyneb. Ein neges i’r cyhoedd yw nad oes unrhyw esgus dros gam-drin gweithwyr siopau, dylech drin ein haelodau gyda’r parch y mae’n nhw’n ei haeddu.
“Yng ngoleuni’r cynnydd annerbyniol mewn cam-drin gweithwyr siopau, mae angen gweithredu ar frys i helpu i ddiogelu staff ac rydym yn annog y Llywodraeth i beidio â diystyru ein deiseb, ond gwrando ar leisiau gweithwyr siop a deddfu ar gyfer cosbau llym i’r rheini sy’n ymosod ar weithwyr.
“Mae gan staff manwerthu rôl hollbwysig yn ein cymunedau ac mae’n rhaid gwerthfawrogi a pharchu’r rôl honno, mae’n nhw’n haeddu cael eu diogelu gan y gyfraith.”