Mae ymchwiliad cyfreithiol ar y gweill i honiadau o “hiliaeth sefydliadol” yng Nghlwb Criced Swydd Efrog, ar ôl i gyn-chwaraewr ddatgelu ei fod e wedi dod yn agos at ladd ei hun.
Chwaraeodd Azeem Rafiq, dyn Mwslimaidd, i’r sir rhwng 2008 a 2018 cyn cael ei ryddhau o’i gytundeb ac ymddeol o’r byd criced.
Dywedodd yr wythnos hon fod yna “hiliaeth sefydliadol” o fewn y clwb, a daeth cadarnhad gan y clwb ddydd Iau (Medi 3) y bydden nhw’n cynnal ymchwiliad ffurfiol.
Mae’n dweud ei fod e’n teimlo fel “estron” yn y clwb, a’i fod e’n “agos iawn at gyflawni hunanladdiad” yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb.
“Ro’n i’n gwireddu breuddwyd fy nheulu o fod yn gricedwr proffesiynol ond ar y tu fewn, ro’n i’n marw,” meddai.
“Roedd yn gas gyda fi feddwl am fynd i’r gwaith.
“Ro’n i mewn poen bob dydd.”
Mae’n dweud iddo “wneud pethau i ffitio i mewn” i’r diwylliant criced ond ei fod e bellach yn “difaru” eu gwneud nhw.
“Dw i ddim yn falch o hynny o gwbl,” meddai.
“Ond unwaith wnes i roi’r gorau i drio ffitio i mewn, ro’n i’n estron.”
Dywed Clwb Criced Swydd Efrog eu bod nhw’n trin yr honiadau’n “ddifrifol iawn” a bod yn rhaid “gwneud yn well” fel clwb.