Fe fydd tîm criced Morgannwg yn arbrofi gyda thactegau newydd ar gyfer eu gêm olaf yn Nhlws Bob Willis yn erbyn Swydd Warwick yng Nghaerdydd yfory (dydd Sul, Medi 6).
Does ganddyn nhw ddim gobaith o gymhwyso ar gyfer y rowndiau nesaf ac felly, mae’n cynnig y cyfle i amrywio’r tîm cyn diwedd y gystadleuaeth.
Fydd y capten Chris Cooke ddim yn parhau’n wicedwr, ac fe fydd Tom Cullen yn dechrau yn y safle hwnnw tra bo’r capten yn canolbwyntio ar fatio ac arwain y tîm.
Yn ystod tymor siomedig hyd yn hyn, mae Morgannwg wedi dibynnu’n helaeth ar y capten i’w hachub sawl gwaith.
“Rydan ni’n newid pethau ryw fymryn yn dactegol,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.
“Mi allai ymddangos braidd yn rhyfedd i lawer o bobol efo Tom Cullen y tu ôl i’r wicedi.
“Mae’r capten wedi gwneud gwaith gwych eleni.
“Mae’n anodd iawn pan ydach chi’n batio yn y pump uchaf, yn cadw wiced ac yn gapten.
“Rydan ni isio rhoi seibiant iddo fo a sbïo ar opsiynau ar gyfer y dyfodol.”
‘Un cyfle nad yw’n ddarlun cyfan’
Yn ôl Matthew Maynard, mae modd edrych ar agweddau positif wrth baratoi ar gyfer gêm ola’r tymor ac at y dyfodol.
Mae hefyd yn gyfle i’r Cymro Cymraeg Owen Morgan gael chwarae rhan yn y tymor, a hynny fel batiwr.
“Mae’n gyfle mewn un gêm nad ydi o o reidrwydd yn ddarlun cyfan ond dw i’n sicr y byddai’n well gan Tom ac Owen chwarae mewn un gêm na dim gemau o gwbl,” meddai.
“Mae gynnon ni bartneriaeth agoriadol ifanc efo [Nick] Selman a Joe Cooke yn chwarae yn ei ail gêm.
“Mae Owen Morgan yn dod i mewn ac yn brwydro’n galed.
“Mae o wedi haeddu’r cyfle hwn, felly mae digon i gyffroi yn ei gylch o.”