Fe fydd tîm pêl-droed Casnewydd yn croesawu Abertawe i Rodney Parade heddiw (dydd Sadwrn, Medi 5) wrth iddyn nhw herio’i gilydd yn rownd gyntaf Cwpan Carabao – y gêm gystadleuol gyntaf yn erbyn ei gilydd ers 14 o flynyddoedd.

Y gystadleuaeth hon sy’n agor y tymor pêl-droed newydd wrth i’r awdurdodau geisio addasu trefn y gemau i ymateb i heriau’r coronafeirws.

Y tro diwethaf iddyn nhw herio’i gilydd yn gystadleuol – yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr – yr Elyrch oedd yn fuddugol o 3-1.

Fe wnaeth yr Elyrch guro Forest Green Rovers, un o wrthwynebwyr Casnewydd yn y gynghrair y tymor hwn, yn eu gêm baratoadol cyn dechrau’r tymor.

Mae disgwyl i’r Elyrch gynnwys nifer o wynebau newydd, gan gynnwys Jamal Lowe, Korey Smith a Morgan Gibbs-White, tra bod y golwr Freddie Woodman hefyd yn chwarae ar ôl ymestyn ei gyfnod ar fenthyg o Newcastle.

Ond fydd y ddau Gymro, Connor Roberts a Ben Cabango, ddim yn chwarae yn sgil eu hymrwymiadau gyda charfan Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ac mae sawl un arall yn absennol hefyd, gan gynnwys Bersant Celina (Cosofo), Marc Guehi (Lloegr dan 21) a’r Cymry dan 21 Liam Cullen, Brandon Cooper, Jack Evans, Joe Lewis ac Oli Cooper.

Mae George Byers hefyd wedi anafu ei goes.

Gallai Liam Shephard ymddangos i Gasnewydd am y tro cyntaf ers symud o Forest Green Rovers, tra bod Scott Twine hefyd yn gobeithio chwarae ar ôl ymuno o Swindon.

Mae Casnewydd hefyd wedi arwyddo Ryan Taylor o Plymouth, David Longe-King o St Albans a Saikou Janneh o Bristol City.

Barn y rheolwyr

Mae Michael Flynn a Steve Cooper, y ddau reolwr, yn edrych ymlaen at yr ornest.

“Byddai’n llawer gwell gyda fi chwarae’r gêm hon na’r gêm gyfeillgar roedden ni wedi’i threfnu,” meddai Flynn, rheolwr Casnewydd.

“Mae’n syniad da.

“P’un a ydyn nhw am gario ymlaen gyda hyn wrth symud ymlaen, bydd rhaid i ni aros i weld.

“Ond i fi mae’n dda, yn enwedig o ystyried yr ornest.”

Mae Steve Cooper yn falch na fydd angen teithio’n bell ar gyfer y gêm.

“Mae ychydig yn wahanol cael gêm gwpan cyn i dymor domestig y gynghrair ddechrau,” meddai.

“Rydyn ni’n trin popeth fel y daw.

“Os ydych chi am fod oddi cartref, dydych chi ddim eisiau teithio’n bell, felly mae hynny’n un bonws bach.

“Mae’n gêm rydyn ni am wneud yn dda ynddi ac yn gêm rydyn ni eisiau ei hennill.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen ati.”