Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Bwlgaria yng Nghaerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd yfory (dydd Sul, Medi 6).
Ar ôl buddugoliaeth yn y Ffindir nos Iau (Medi 3), bydd tîm Ryan Giggs yn hyderus wrth wynebu tîm oedd wedi cael ymgyrch siomedig yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020.
Enillon nhw un gêm yn unig allan o wyth, gan orffen yn bedwerydd a cholli ddwywaith yn erbyn Lloegr – o 4-0 a 6-0.
Daeth eu hunig fuddugoliaeth yng ngêm ola’r ymgyrch, wth iddyn nhw drechu Gweriniaeth Tsiec o 1-0.
Ers hynny, collon nhw o 1-0 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Belarws cyn y cyfnod clo ym mis Chwefror, ac fe gawson nhw gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Helynt yr hyfforddwr
Cafodd yr hyfforddwr Georgi Dermendzhiev ei benodi fis Hydref y llynedd ar ôl ffrae am hiliaeth yn ystod ymgyrch ragbrofol y tîm i gyrraedd Ewro 2020.
Ymddiswyddodd ei ragflaenydd Krasimir Balakov ar ôl iddo wadu bod cefnogwyr wedi ymddwyn yn hiliol tuag at chwaraewyr Lloegr yn Sofia, prifddinas y wlad.
Yn 65 oed, mae’r rheolwr presennol wedi cael cryn lwyddiant ar lefel clybiau, gan arwain Ludogorets Razgrad i grwpiau Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith.
Y chwaraewyr allweddol a’r tactegau
Mae Georgi Dermendzhiev yn ffafrio dull 4-3-3 o osod y chwaraewyr ar y cae.
Ond mae prinder goliau wedi bod yn broblem, wrth iddyn nhw sgorio tair gôl yn unig mewn wyth gêm.
Ond roedd peth gwelliant yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yr wythnos ddiwethaf.
Bozhidar Kraev yw prif ymosodwr Bwlgaria, ac yntau’n chwarae i dîm Midtjylland yn Nenmarc, ac mae Wanderson a Marcelinho, dau chwaraewr sy’n enedigol o Frasil, yno i’w gynorthwyo.
Ond nid tîm y 90au mo hwn – does ganddyn nhw neb mor ymosodol â rhai o fawrion y gorffennol fel Hristo Stoichkov, Yordan Letchkov, Krasimir Balakov na Dimitar Berbatov.