Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi awgrymu bod gan Ethan Ampadu benderfyniad i’w wneud ynghylch ei ddyfodol gyda Chelsea.

Roedd yr amddiffynnwr canol 19 oed ymhlith y chwaraewyr gorau ar y cae wrth i Gymru guro’r Ffindir o 1-0 yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Iau (Medi 3).

Ond dydy e ddim wedi chwarae’n gyson i Chelsea nac RB Leipzig, lle treuliodd e’r tymor diwethaf ar fenthyg.

Ac mae Chelsea newydd ddenu Thiago Silva o Paris St. Germain, a allai gyfyngu ymhellach ar amser y Cymro ar y cae.

“Dw i eisiau i’r holl chwaraewyr fod yn chwarae’n gyson, ond weithiau dydy hynny ddim yn wir,” meddai Ryan Giggs.

“Mae’n fater o gydbwysedd pan fyddan nhw gyda chlwb mawr a chwaraewyr mawr o’u cwmpas nhw ac yn gwella bob dydd, ond yn y pen draw, me angen munudau arnoch chi ar y cae.

“Mae hynny’n benderfyniad i Ethan.

“Dw i wedi siarad â fe dipyn am hynny.

“Dw i’n credu bod y llynedd ychydig yn wahanol gan fod ganddo fe anafiadau.

“Gallech chi weld o’r gêm chwaraeodd e yn erbyn Tottenham yng Nghynghrair y Pencampwyr ei fod e’n rhagorol.

“Does dim byd yn amharu arno fe, mae e’n chwaraewr o safon, ac mae angen iddo fe gadw’n ffit nawr.”