Casnewydd yw’r unig dîm pêl-droed o Gymru sy’n dal yng Nghwpan Carabao, ar ôl iddyn nhw guro Abertawe o 2-0 yn y rownd gyntaf yn Rodney Parade.
Collodd Caerdydd o 3-0 oddi cartref yn Northampton.
Rhwydodd Tristan Abrahams ddwywaith yn yr hanner cyntaf i Gasnewydd wrth i’r timau gyfarfod â’i gilydd mewn gêm gystadleuol am y tro cyntaf ers 2006.
Yn Northampton, fe wnaeth Jordi Osei-Tutu, yn ei gêm gyntaf i’r Adar Gleision, lorio Joseph Mills ar ôl 33 munud a rhwydodd Harry Smith o’r smotyn i roi’r Saeson ar y blaen.
Dyblon nhw eu mantais yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Mathew Warburton guro’r amddiffyn wrth iddyn nhw geisio’i ddal yn camsefyll, ac fe rwydodd dros ben Alex Smithies yn y gôl.
Daeth y drydedd gôl ar ôl awr wrth i Ryan Watson rwydo o’r tu allan i’r cwrt cosbi.