Mae Morgannwg yn croesawu Swydd Warwick i Gaerdydd heddiw (dydd Sul, Medi 6) ar gyfer eu gêm bêl goch olaf yn Nhlws Bob Willis, sy’n dechrau am 10.30yb.

Fe fu’n ymgyrch siomedig i’r sir Gymreig, ac mae’r gêm olaf hon yn gyfle i arbrofi, gyda’r capten Chris Cooke yn chwaraewr fel batiwr yn unig a Tom Cullen wedi’i ddewis yn wicedwr yn ei le.

Mae’r Cymro Cymraeg Owen Morgan yn un o bedwar newid yn y garfan, ac fe fydd e’n batio’n rhif tri.

Mae’r bowliwr cyflym Lukas Carey wedi’i gynnwys wrth i Timm van der Gugten a Michael Hogan gadw eu llefydd.

Mae Ian Bell, cyn-fatiwr rhyngwladol Lloegr, yn chwarae yn ei gêm bêl goch olaf erioed i Swydd Warwick.

Gemau’r gorffennol

Mae’r ddau dîm yn ceisio’u buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth.

Dyma’r tro cyntaf i Swydd Warwick ymweld â Chaerdydd ar gyfer gêm bêl goch ers 2008, pan enillon nhw o bum wiced wrth i’r batiwr agoriadol Ian Westwood daro 176 cyn i James Anyon gipio chwe wiced a gorfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen a Chris Woakes yn cipio pum wiced yn yr ail fatiad.

Pan ymwelodd Swydd Warwick â Llandrillo yn Rhos yn 2018, tarodd Ian Bell 204, wrth i’r troellwr Jeetan Patel gipio deg wiced dros y ddau fatiad i arwain y Saeson i fuddugoliaeth er i Ruaidhri Smith a Michael Hogan frwydro’n ddewr gyda’r bat.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Warwick mewn gêm bêl goch yng Nghaerdydd ers 1993, pan gipiodd Adrian Dale ei ffigurau gorau erioed, chwe wiced am 18, cyn i’r capten Hugh Morris daro hanner canred i selio’r fuddugoliaeth o ddwy wiced.

Morgannwg: N Selman, J Cooke, O Morgan, B Root, C Cooke (capten), C Taylor, D Douthwaite, T Cullen, T van der Gugten, L Carey, M Hogan

Swydd Warwick: W Rhodes (capten), R Yates, S Hain, I Bell, D Mousley, M Burgess, A Thomson, E Brookes, L Norwell, O Hannon-Dalby, R Sidebottom

Sgorfwrdd