Llwyddodd Cymru i guro Bwlgaria 1-0 ar ôl peniad dramatig gan Neco Williams ym mhedwerydd munud yr amser anafiadau y pnawn yma.

Roedd y llanc 19 oed, sydd eisoes yn gwneud ei farc yn Anfield, wedi dod i’r cae fel eilydd ar y 65ed munud yn y gêm yng Nghaerdydd.

Profodd Bwlgaria i fod yn wrthwynebydd gwydn heddiw er eu bod 36 safle’n is na Chymru yn y rhengoedd byd-eang, ac ni wnaeth Cymru fawr ohoni yn yr hanner cyntaf.

Aeth 43 munud heibio cyn i Gymru gael ergyd uniongyrchol at gôl Bwlgaria, wrth i Gareth Bale daro cic rydd a gafodd ei harbed gan y golwr Georgi Georgiev.

Dangosodd Cymru rai arwyddion o welliant yn yr ail hanner pan wnaeth Hal Robson-Kanu gymryd lle Keffer Moore – y tro cyntaf iddo chwarae dros Gymu ers mis Hydref 2017.

Roedd popeth ar fin dod i ben i Gymru fodd bynnag cyn i Neco Williams ddod i’r adwy a sicrhau’r fuddugoliaeth i’w wlad. Dyma’r drydedd gêm yn olynol i Gymru ei hennill, ac mae’n parhau rhediad o saith gêm heb golli.