Fe wnaeth Ian Bell achub Swydd Warwick yn ei gêm bêl goch olaf i’r sir, wrth i Forgannwg orffen diwrnod cynta’r ornest yn Nhlws Bob Willis yng Nghaerdydd yn bedwar am un yn eu batiad cyntaf.
Sgoriodd yr ymwelwyr 186 ond roedden nhw mewn trafferthion difrifol cyn i Bell (50) a Dan Mousley – oedd heb ei eni pan chwaraeodd Bell i’r sir am y tro cyntaf yn 1999 – adeiladu partneriaeth o 70 am y bedwaredd wiced.
Cyn hynny, cafodd Will Rhodes ei fowlio gan Timm van der Gugten, cyn i’r un bowliwr daro coes Sam Hain o flaen y wiced, a daeth y drydedd wiced pan gafodd Rob Yates ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Lukas Carey.
Pan ddaeth Bell a Mousley at ei gilydd, roedd Swydd Warwick yn 23 am dair a daeth hanner canred Bell oddi ar 116 o belenni, gan gynnwys naw pedwar, wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 89 am dair erbyn amser cinio.
Yn fuan ar ôl cinio, tarodd Carey goes Mousley o flaen y wiced am 31, ac fe gafodd Michael Burgess ei ddal yn y slip gan Nick Selman, hefyd oddi ar fowlio Carey, i adael yr ymwelwyr yn 117 am bump.
Llithro
Collodd Swydd Warwick eu pum wiced olaf am 54 o rediadau wedi oedi am law.
Cafodd Bell ei ddal gan Cullen oddi ar fowlio Dan Douthwaite ar ôl cyrraedd ei hanner canred, a chipiodd yr un bowliwr wiced Ethan Brookes, wedi’i ddal gan Selman.
Y wicedwr Cullen ddaliodd Alex Thomson oddi ar fowlio Timm van der Gugten, cyn i Douthwaite waredu Liam Norwell, wedi’i ddal gan Carey oddi ar fowlio Douthwaite i adael y Saeson yn 154 am naw.
Daeth y batiad i ben pan gafodd Oliver Hannon-Dalby ei ddal gan Cullen oddi ar fowlio Michael Hogan, a Swydd Warwick i gyd allan am 186.
Siom hwyr i Forgannwg
Roedd angen i Forgannwg wynebu – a goroesi – wyth pelawd cyn diwedd y dydd.
Roedd Nick Selman a Joe Cooke, sy’n chwarae yn ei ail gêm pedwar diwrnod, gyda’i gilydd am bum pelawd cyn i Selman yrru pelen gan Norwell at Bell yn y slip.
Mae Morgannwg, felly, yn bedwar am un, ar ei hôl hi o 182.