Mae Neco Williams yn dweud y gall Cymru guro Lloegr ym mis Hydref – ar ôl i’r cefnwr selio buddugoliaeth i Gymru o 1-0 dros Fwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd.
Hon oedd ail gêm y chwaraewr 19 oed sy’n chwarae i Lerpwl, ac fe ddaeth i’r cae yn eilydd ar ôl 64 munud.
Daeth y gôl fuddugol pan beniodd e oddi ar groesiad Jonny Williams i’r postyn pellaf ym mhedwaredd munud yr amser a ganiateir am anafiadau.
Daeth David Brooks yn agos at roi Cymru ar y blaen 16 munud cyn diwedd y gêm pan darodd e’r postyn, a hwnnw’n chwarae yn ei gêm gyntaf dros Gymru ers mis Mehefin y llynedd yn dilyn llawdriniaeth ar ei ffêr.
Gallai Bwlgaria fod wedi sgorio ar ôl 25 munud pan dderbyniodd Galin Ivanov bêl letraws cyn i Connor Roberts wyro’r ergyd am gic gornel.
Tarodd Bale ergyd ar ôl cyfuno gyda Brooks rai munudau’n ddiweddarach, ond roedd yr ergyd unwaith eto yn ofer.
Ar ôl cyfnod o law, roedd y cae yn llithrig a bu’n rhaid aros tan ychydig funudau cyn yr egwyl am ergyd arall o bwys, pan wnaeth Gareth Bale daro cic rydd at y golwr Georgi Georgiev a daeth yr hanner i ben ar ôl ergyd gan Brooks.
Daeth Hal Robson-Kanu i’r cae yn eilydd ar ôl awr, wrth iddo fe ymddangos yng nghrys Cymru am y tro cyntaf ers 2017.
Ar ôl i Birsent Karagaren benio dros y trawst ar ddiwedd ymosodiad prin gan Fwlgaria, daeth cyfle arall i Gymru wrth i Dan James daro ergyd ar ôl cyfuno gyda Brooks.
Tarodd Brooks y gôl rhwng y postyn a’r trawst cyn cael ei ddisodli gan Jonny Williams, ond bu’n rhaid aros am eiliad hudolus gan Neco Williams i fod yn sicr o’r triphwynt i ddod ag wythnos lwyddiannus i dîm Ryan Giggs i ben.
Herio Lloegr
Fe ddaw cyfle nesa’r Cymro – oedd yn cael ei lygadu gan Loegr cyn dewis cynrychioli Cymru – pan fyddan nhw’n herio’i gilydd yn Wembley mewn gêm gyfeillgar ar Hydref 8.
“Fis nesa’ mae gynon ni Loegr ac mae honno am fod yn gêm wych,” meddai.
“Efo’r ansawdd sy’ gynnon ni yn y tîm yma, rydan ni am brofi y medrwn ni eu curo nhw.
“Dw i’n sicr ei bod hi am fod yn gêm wych.
“Mae’r hogia wedi cyffroi ac yn methu aros am y gêm.”
Siom i Fwlgaria
Mae Georgi Dermendzhiev, rheolwr Bwlgaria, wedi mynegi pryder bod ei dîm wedi ildio gôl hwyr unwaith eto, ar ôl cael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ddiwedd yr wythnos.
“Rhaid i chi chwarae hyd y chwiban olaf, a wnaethon ni ddim canolbwyntio digon,” meddai.
“Ond roedd llawer o bethau positif gyda ni oherwydd roedd chwaraewyr wedi’u hanafu ac roedd rhaid i ni wneud newidiadau.”