Mae disgwyl i Sheyi Ojo ymuno â Chaerdydd ar fenthyg o Lerpwl.

Dydy’r asgellwr ddim wedi chwarae i dîm Jurgen Klopp ers 2017.

Mae lle i greu bod Nottingham Forest hefyd wedi bod yn cwrso’r chwaraewr 23 oed, ond fod Lerpwl ac Ojo ei hun yn ffafrio’r Adar Gleision.

Treuliodd e’r tymor diwethaf ar fenthyg yn Rangers yn dilyn sawl tymor i ffwrdd o Anfield.