Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi canmol Neco Williams ar ôl iddo sgorio ei gôl gyntaf dros ei wlad gan sicrhau’r fuddugoliaeth yn erbyn Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Daeth Neco Williams i’r cae ar ôl 65 munud, cyn penio croesiad Jonny Williams ym munud ola’r gêm yng Nghaerdydd.

“Mae agwedd Neco yn anhygoel, pan mae gen ti chwaraewyr proffesiynol sydd eisiau gwella, mae gen ti gyfle o hyd,” meddai Ryan Giggs.

“Mae o wedi dangos ei safon a’i hyder drwy gydol yr wythnos, mae chwaraewyr fel hyn yn eich ysbrydoli.

“Mae o wedi bod yn wych drwy’r wythnos, nid yn unig yn y gemau ond wrth hyfforddi hefyd.”

Mae Cymru driphwynt ar y blaen i’r Ffindir, wnaeth guro Gweriniaeth Iwerddon o 1-0 ddydd Sul (Medi 6), ar frig Cynghrair B, Grŵp 4.

Hon oedd y bedwaredd gêm ryngwladol yn olynol mae Cymru wedi’i hennill, a dydyn nhw ddim wedi colli eu saith gêm flaenorol.

“Mae’n nodwedd dda i’w chael, ac mae’n rhaid i ni gario ’mlaen,” meddai Ryan Giggs.

“Rydym wedi llwyddo i beidio ildio goliau, a phan mae gen ti lechen lân mae hynny wastad yn rhoi cyfle da i chi ennill gemau.”

Bydd Cymru’n wynebu dwy gêm oddi cartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Hydref, wrth wynebu Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.

Herio Lloegr

Ond cyn hynny, bydd tîm Ryan Giggs yn wynebu Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley ar Hydref 8.

Mae Neco Williams yn credu y gall Cymru ennill y gêm honno.

“Fis nesa’, mae gynnon ni Loegr ac mae honno am fod yn gêm wych,” meddai.

“Efo’r ansawdd sy’ gynnon ni yn y tîm yma, rydan ni am brofi y medrwn ni eu curo nhw.”