Mae Sheyi Ojo, asgellwr newydd Caerdydd, yn dweud bod ganddo fe “bwynt i’w brofi” ar ôl symud ar fenthyg o Lerpwl.
Bydd e ar gael i’r Adar Gleision drwy gydol y tymor newydd, ac mae’n dilyn Kieffer Moore a Jordi Osei-Tutu i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae’n gallu chwarae ar yr asgell neu fel ymosodwr rhif 10, ac mae e wedi chwarae 13 o weithiau i Lerpwl, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg hefyd yn Fulham, Rangers, Reims, Wigan a Wolves.
Bydd e ar gael i herio Sheffield Wednesday wrth i dymor y gynghrair ddechrau ddydd Sadwrn (Medi 12).
“Mae gyda fi bwynt i’w brofi a dw i wedi cyffroi’n fawr ar gyfer yr her newydd,” meddai wrth orsaf deledu Cardiff City TV.
“Mae Caerdydd yn glwb enfawr a chanddyn nhw gefnogwyr a chwaraewyr gwych – gobeithio y galla i ddangos beth alla i ei wneud a ffitio i mewn yn iawn.
“Dw i wrth fy modd o gael cyrraedd mewn da bryd ar gyfer wythnos o ymarfer gyda’r tîm cyn y gêm gartef gyntaf ddydd Sadwrn yma.
“Nawr mae’n bwysig ein bod ni’n dechrau’n iawn.”