Bydd gêm Y Bala yn erbyn Standard Liege, sydd wedi ennill Cynghrair Gwlad Belg 10 o weithiau, yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa UEFA yn cael ei ffrydio’n fyw ar y we gan Sgorio.

Llwyddodd Y Bala i gyrraedd yr ail rownd drwy drechu Valletta FC o 1-0.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar nos Iau (Medi 17) yn y Stade Maurice Dufrasne, gyda’r gic gyntaf am 7.00yh.

Bydd ffrwd fyw o’r gêm yn cael ei ddangos ar dudalen Facebook Live Sgorio ac ar S4C Clic, am 6.55yh.

Gan fod UEFA wedi newid strwythur y gystadleuaeth yn sgil y pandemig y coronaferiws, fe fydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf, yn hytrach na chwarae ail gymal ac yn wynebu FK Vojvodina o Serbia.

O ran y ddau dîm arall o Gymru sydd yn y gystadleuaeth, bydd Y Seintiau Newydd yn chwarae yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd y Faroe, tra bod Cei Connah yn wynebu Dinamo Tbilisi o Georgia.

Dyma’r gemau fydd yn cael ei chwarae yn yr ail rownd:

Cei Connah v Dinamo Tbilisi

B36 Torshavn v Y Seintiau Newydd

Standard Liege v Y Bala

Inter Escaldes v Dundalk

Linfield v Floriana

Coleraine v Motherwell

Viking v Aberdeen

Lokomotiv Plovdiv v Tottenham Hotspur

Lincoln Red Imps v Rangers

Shamrock Rovers v AC Milan