Mae Mundo Deportivo wedi adrodd nad yw Real Madrid wedi cael unrhyw gynnig am Gareth Bale.
Eglurodd Gareth Bale yr wythnos ddiwethaf ei fod am adael Real Madrid, ond nad yw’r clwb yn ei gwneud yn hawdd iddo adael y Bernabéu.
Y broblem fawr, yn ôl Mundo Deportivo, yw bod y Cymro ar y cyflog uchaf yn y clwb, 15 miliwn ewro y flwyddyn, ac nid oes unrhyw dimau sydd am dalu’r swm hwnnw iddo. Hefyd, nid yw Bale yn ymddangos yn barod i dderbyn llai o gyflog.
Yn ôl i Spurs?
Yn ôl Mundo Deportivo, byddai José Mourinho wrth ei fodd yn ei gael yn Tottenham.
Rhoddodd y rheolwr o Bortiwgal gynnig arni pan oedd yn hyfforddi Manchester United ac nid yw wedi anghofio am Bale.
Fodd bynnag, mae bwrdd Spurs yn enwog am fod yn amharod i wario llawer o arian, heb sôn am dalu cyflog mor enfawr, felly, ar hyn o bryd, nid yw trosglwyddiad i Spurs yn debygol.
Fe allai’r MLS fod yn ddihangfa i Bale. Clwb David Beckham, Inter Miami, o bosib.
Ond am y tro, does neb wedi curo ar ddrws Real Madrid yn gofyn am Gareth.