Mae Casnewydd wedi llofnodi Brandon Cooper, chwaraewr rhyngwladol dan-21 Cymru, ar fenthyg o Abertawe.
Ymunodd yr amddiffynnwr, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Elyrch yng Nghwpan Carabao yn ystod tymor 2018/19, â Yeovil ar fenthyg ym mis Chwefror ond dim ond tri ymddangosiad a wnaeth cyn i’r pandemig gwtogi’r ymgyrch.
Mae gan Abertawe’r dewis i ad-alw’r chwaraewr 20 oed ym mis Ionawr.
Dywedodd Brandon Cooper wrth wefan Casnewydd: “Roedd chwarae allan ar fenthyg gyda Yeovil y tymor diwethaf yn brofiad da ac rwy’n siŵr y bydd o fudd i mi yn mynd i mewn i’r tymor hwn.
“Mae’r clwb hwn wedi gwneud yn dda yn y gynghrair ac yn y cwpanau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o hynny gyda nhw y tymor hwn.”
Ychwanegodd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn: “Dw i wedi gallu ei wylio ac mae’n amddiffynnwr talentog iawn gyda dyfodol disglair o’i flaen.
“Bydd yn ychwanegiad gwych i’r clwb, a dw i’n edrych ymlaen at ei wylio’n datblygu gyda ni.”