Gorffennodd Geraint Thomas yn ddiogel, er i gymal agoriadol y Tirreno-Adriatico weld sawl reidiwr yn cael damwain.

Roedd Thomas ar flaen y peloton tua diwedd y cymal gwastad 133 cilomedr o hyd – cymal a ddechreuodd ac a orffennodd yn y Lido di Camaiore – ond roedd y tu ôl i ddamwain a welodd nifer o reidwyr yn cwympo yn y tri cilomedr olaf.

Cipiodd Pascal Ackermann y fuddugoliaeth oddi wrth Fernando Gaviria ar y llinell, gan amseru ei sbrint yn berffaith ar ôl i Gaviria fynd yn rhy fuan.

Mae Geraint, yn ogystal â Chris Froome, a orffennodd yn ddiogel hefyd, yn y ras wythnos o hyd yn yr Eidal ar ôl cael eu gadael allan o garfan Ineos Grenadiers ar gyfer y Tour de France. Yn ymuno â nhw hefyd roedd Simon Yates o dîm Mitchelton-Scott.

Mae Thomas a Yates ill dau yn paratoi ar gyfer y Giro d’Italia, sydd i fod i ddechrau ar 3 Hydref, tra bod Froome yn gweithio tuag at y Vuelta a Espana sy’n dechrau ar 20 Hydref.