Mae Caerdydd wedi arwyddo Sheyi Ojo ar fenthyg o Lerpwl.
Ojo yw trydydd trosglwyddiad Caerdydd yr haf hwn, yn dilyn dyfodiad Kieffer Moore o Wigan a Jordi Osei-Tutu ar fenthyg o Arsenal.
“Mae gen i bwynt i’w brofi ac rwy’n gyffrous iawn am yr her newydd,” meddai Ojo, 23, wrth Deledu Dinas Caerdydd.
“Mae Dinas Caerdydd yn glwb enfawr gyda chefnogwyr gwych a chwaraewyr gwych – gobeithio y gallaf ddangos beth alla i ei wneud yma a ffitio i mewn.
“Rwy’n falch iawn o gyrraedd yma mewn pryd ar gyfer wythnos lawn o hyfforddiant gyda’r tîm cyn y gêm gartref gyntaf ddydd Sadwrn. Nawr mae’n bwysig ein bod yn dechrau’n iawn.”
Mae Ojo, sy’n gallu chwarae ar yr asgell neu mewn rôl rhif 10, wedi gwneud 13 ymddangosiad i Lerpwl ac wedi treulio amser ar fenthyg yn Fulham, Rangers, Reims, Wigan a Wolves.
Bydd Caerdydd yn dechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Sky Bet yn erbyn Sheffield Mercher ddydd Sadwrn.
Hefyd, cyhoeddodd yr Adar Gleision yn fod y amddiffynwr, Curtis Nelson, wedi llofnodi estyniad o ddwy flynedd, tan haf 2023, i’w gontract presennol.
Dywedodd yr amddiffynwr 27 oed wrth Deledu Dinas Caerdydd: “Mae gen i dri amddifynwr canol da i ddysgu oddi wrthyn nhw yma, yn Sol (Bamba), Flinty (Aden Flint) a Moz (Sean Morrison). Dw i am geisio parhau i ddysgu a pherfformio.”