Mae gan Forgannwg flaenoriaeth o 17 rhediad ar ddiwedd eu batiad cyntaf yn y gêm yn erbyn Swydd Warwick yn Nhlws Bob Willis yng Nghaerdydd, diolch yn bennaf i hanner canred gan Billy Root.
Roedd Root heb fod allan ar 51 ar ddiwedd y batiad, ar ôl wynebu 100 o belenni, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 203 erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, wrth ymateb i 186 yr ymwelwyr.
Ond perfformiad digon siomedig gafwyd gan y batwyr eraill, wrth i Oliver Hannon-Dalby a Liam Norwell gipio pedair wiced yr un i’r Saeson.
Er gwaetha’r tywydd, mae digon o amser dros y ddeuddydd nesaf i sicrhau canlyniad yng ngêm bêl goch ola’r tymor.
Manylion
Liam Norwell gafodd y gorau o’r amodau’n gynnar yn y dydd, wrth gipio dwy wiced – Joe Cooke wedi’i ddal gan y wicedwr Michael Burgess cyn i’r noswyliwr Timm van der Gugten golli’i wiced yntau yn yr un modd, er bod amheuon a oedd y bêl wedi bwrw’r bat.
Rodd Morgannwg yn 29 am dair pan ddaeth y Cymro Cymraeg Owen Morgan i’r llain am y tro cyntaf mewn gêm bêl goch ers mis Gorffennaf y llynedd.
Adeiladodd e a’r capten Chris Cooke bartneriaeth o 53 am y bedwaredd wiced cyn iddyn nhw golli’u wicedi cyn cinio – Cooke wedi’i ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio Will Rhodes, a Morgan wedi’i fowlio gan yr un bowliwr.
Adeiladodd Root a Callum Taylor bartneriaeth o 33 wedyn ond cafodd Taylor ei ddal yn wych gan Ian Bell yn y slip oddi ar fowlio Norwell i adael Morgannwg yn 116 am chwech, a’r batiwr yn gorwedd ar wastad ei gefn.
Cafodd Dan Douthwaite ei fowlio wedyn gan Ryan Sidebottom ar ôl cael ei ollwng yn yr ochr agored oddi ar y belen flaenorol, tra bod Tom Cullen wedi’i fowlio gan Sidebottom.
Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 162 am wyth a sgoriodd Lukas Carey 23 cyn cael ei fowlio gan Rhodes.
Cyrhaeddodd Root ei hanner canred i gipio pwynt bonws i Forgannwg cyn i Michael Hogan gael ei fowlio yn yr un belawd heb fod wedi sgorio.