Mae Ethan Ampadu, sydd wedi chwarae i Gymru 13 o weithiau, wedi ymuno â Sheffield United ar fenthyg am y tymor.

Treuliodd Ethan Ampadu’r tymor diwethaf ar fenthyg gyda chlwb RB Leipzig yn yr Almaen, ond dim ond saith o weithiau y cafodd chwarae.

Dywedodd rheolwr Sheffield United, Chris Wilder: “Mae Ethan yn chwaraewr ifanc penigamp i Chelsea, ac rydym wedi gweithio’n galed iawn i’w arwyddo.

“Mae’n rhaid i ni ddiolch i Frank Lampard a’r bobol yn Chelsea am hyn.

“Mae gennym berthynas dda gyda nhw ac maen nhw’n gwybod ein bod yn mynd i edrych ar ei ôl.”

Bydd Sheffield United yn herio Wolves yn ei gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn ar Fedi 14.