Bydd trydydd diwrnod y gêm bêl goch rhwng Morgannwg a Swydd Warwick yng Nghaerdydd yn cael ei gofio fel y diwrnod pan gamodd Ian Bell i ffwrdd o’r llain fatio am y tro olaf erioed ar ôl gyrfa oedd wedi para ugain mlynedd.

Tarodd cyn-fatiwr Lloegr 90 i roi’r ymwelwyr mewn sefyllfa gref i ennill yr ornest, gan osod nod o 331 i Forgannwg ennill ar y diwrnod olaf yfory. Ar ddiwedd y trydydd diwrnod, roedden nhw’n naw heb golli wiced yn eu hail fatiad.

Daeth gyrfa fatio Bell i ben gyda chyfanswm o 20,440 o rediadau ar gyfartaledd o 43.58 – ond gyda chyfanswm o ddim ond 66 o rediadau yn ei chwe batiad diwethaf cyn yr ornest hon – gyda 140 dros y ddau fatiad yn y gêm hon.

Roedd hefyd yn ddiwrnod cofiadwy i Dan Mousley, y batiwr 19 oed oedd heb ei eni pan chwaraeodd Bell am y tro cyntaf yn 1999. Ar ôl adeiladu partneriaeth o 70 gyda Bell yn y batiad cyntaf, aeth yn ei flaen yn yr ail fatiad i daro’i hanner canred cyntaf mewn gêm bêl goch sirol cyn cael  ei ddal am 71.

Cymeradwyaeth i gyn-fatiwr Lloegr

Daeth Ian Bell i’r llain ar ddechrau’r trydydd diwrnod i gymeradwyaeth yr hyfforddwyr a’r wasg, cyn i chwaraewyr Morgannwg greu gosgordd i’w groesawu i’r canol am y tro olaf.

Ond y sir Gymreig ddechreuodd y diwrnod gryfa, pan gafodd Rob Yates ei ddal yn gampus yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Ar ôl symud o un pen y llain i’r llall, cipiodd Michael Hogan wiced Will Rhodes wedyn i roi ail ddaliad i Selman, wrth i ymgyrch y batiwr ddod i ben gyda chyfartaledd o 53.

Ceisiodd Bell a Sam Hain fynd â’r gêm y tu hwnt i gyrraedd Morgannwg wedyn, gan sgorio’n gyflym wrth ychwanegu 76 erbyn amser cinio, a 67 eto ar ddechrau sesiwn y prynhawn.

Roedd eu partneriaeth o 143 yn rhwystredigaeth i Forgannwg wrth i’r ymwelwyr ymestyn eu mantais yn yr ail fatiad i 210 erbyn amser te.

Prynhawn llewyrchus i’r ymwelwyr

Heb fod allan ar 46 amser cinio, cyrhaeddodd Bell ei hanner canred oddi ar 63 o belenni yn gynnar yn y prynhawn, wrth daro’i wythfed ergyd i’r ffin oddi ar fowlio Michael Hogan i’r ochr agored.

Ar ôl taro hanner canred yn y batiad cyntaf, roedd ei fatiad yn yr ail yr un mor gampus wrth iddo adeiladu partneriaeth sylweddol gyda Hain, a gyrhaeddodd ei hanner canred yntau – ei ail mewn dwy gêm – oddi ar 106 o belenni gan daro saith pedwar.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau adeiladu partneriaeth o gant a mwy ers iddyn nhw wneud hynny yn Llandrillo yn Rhos yn 2018, pan darodd Bell ganred dwbl, ynghyd â dau ganred yn yr ornest gyfatebol yn erbyn Morgannwg yn Edgbaston – y tri batiad gyda’i gilydd yn werth 425 o rediadau.

Daeth batiad Hain i ben ar 65 pan gynigiodd y batiwr ddaliad syml i’r wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Dan Douthwaite wrth i’w bartner Bell chwilio’n ofer am un canred olaf cyn ymddeol.

Morgannwg yn cwrso

Daeth Michael Burgess a Dan Mousley i’r canol ar ôl te gyda Swydd Warwick yn 227 am bedair.

Ond ar ôl troi at y troellwyr ar ôl i Lukas Carey adael y cae ag anaf i’w ochr, cipiodd Owen Morgan, y troellwr llaw chwith, wiced Burgess – ei wiced gynta’r tymor hwn – wrth i’r batiwr chwarae’n groes i linell y bêl i gynnig daliad syml i’r wicedwr Cullen.

Parhau i roi pwysau ar Forgannwg wnaeth Mousley, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred cyntaf mewn gêm bêl goch sirol oddi ar 62 o belenni.

Cafodd ei bartner Alex Thomson ei ddal wrth yrru’n syth at y ffin ar ochr y goes oddi ar fowliwr Callum Taylor.

Roedd yr ymwelwyr yn 335 am chwech pan ddaeth cawod fach o law, a chafodd un belawd yn unig ei cholli cyn i Mousley gael ei ddal ar y ffin yn y cyfar gan Joe Cooke oddi ar fowlio Douthwaite.

Penderfynodd Swydd Warwick gau’r batiad ar 347 am saith, gan osod nod o 331 i Forgannwg ennill gyda phum pelawd yn weddill o’r trydydd diwrnod.

Goroesodd Cooke waedd am goes o flaen y wiced oddi ar fowlio Liam Norwell oddi ar y belen olaf.