Mae chwaraewr canol cae Manchester United a Chymru Dylan Levitt, 19, wedi ymuno â Charlton ar fenthyg am y tymor.

Enillodd Dylan Levitt ei gap cyntaf dros Gymru yn y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Y Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar Fedi 3.

A nawr bydd yn ymuno â’i gyd-chwaraewr Cymru Jonny Williams yn Charlton, sy’n chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr (League One).

“Wrth fod modd i arwyddo â Charton am y tymor, methu disgwyl i’r tymor ddechrau nawr,” meddai ar ei gyfrif Trydar.

Dylan Levitt yw ail chwaraewr ifanc Cymru i adael ei glwb ar fenthyg y tymor hwn, ar ôl i Ethan Ampadu, 19, ymuno â Sheffield United ddydd Mawrth (Medi 7).