Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi enwi carfan o 27 chwaraewr i wynebu Norwy ar ddiwedd y mis.
Mae Jess Fishlock nôl yn y garfan ar ôl bod allan am 18 mis oherwydd anaf, yn ogystal ag Elise Hughes a Gemma Evans.
Mae disgwyl i’r capten Sophie Ingle ennill ei chanfed cap yn y gêm yn Oslo fydd yn cael ei chynnal heb dorf.
Bydd Poppy Soper, Cerys Jones a Bethan McGowan yn rhan o garfan Cymru am y tro gyntaf.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r tair wedi chwarae i dimau dan 17 a dan 19 Cymru.
Fydd 20 o’r chwaraewyr yn teithio i Oslo ar gyfer y gêm yn erbyn Norwy ar ddydd Mawrth Medi 22.
Mae Cymru yn eistedd yn yr ail safle yn y tabl ar hyn o bryd, pedwar pwynt tu ôl i Norwy gyda phedwar gêm ar ôl i’w chwarae.
Carfan Cymru
Laura O’SULLIVAN, Claire SKINNER, Poppy SOPER, Jess FISHLOCK, Sophie INGLE, Hayley LADD, Gemma EVANS, Rhiannon ROBERTS, Anna FILBEY, Angharad JAMES, Nadia LAWRENCE, Rachel ROWE, Natasha HARDING, Elise HUGHES, Helen WARD, Kayleigh GREEN, Josie GREEN, Ffion MORGAN, Charlie ESTCOURT, Lily WOODHAM, Maria FRANCIS-JONES, Kylie NOLAN, Carrie JONES, Cerys JONES, Georgia WALTERS, Chloe WILLIAMS, Bethan MCGOWAN