Mae Caerdydd wedi terfynu cytundeb Nathaniel Mendez-Laing.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb na fyddai Caerdydd yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater.

Daw hyn ar ôl i Neil Harris, Rheolwr Caerdydd, ddweud yr wythnos ddiwethaf bod Nathaniel Mendez-Laing yn absennol o’r garfan oherwydd rhesymau personol.

Mae’n debyg fod yr asgellwr wedi torri telerau ei gytundeb, ac mai dyna pam bod y clwb wedi cymryd y penderfyniad.

Mae’r chwaraewr 28 oed hefyd wedi dileu ei gyfrifon gyfryngau cymdeithasol.

Bydd yr Adar Gleision yn chwarae yn erbyn Sheffield Wednesday gartref ddydd Sadwrn (Medi 12).