Fe wnaeth tîm criced Morgannwg frwydro’n galed i achub eu gêm olaf yn Nhlws Bob Willis eleni, wrth i Ian Bell ddod â’i yrfa dosbarth cyntaf gyda Swydd Warwick i ben yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd ar ddiwedd y gêm gyfartal.

Sgoriodd Bell 140 o rediadau yn y gêm ac fe gafodd e gryn gymeradwyaeth gan ei gyd-chwaraewyr, y dyfarnwyr a’r hyfforddwyr wrth iddo fe adael y cae am y tro olaf. Hon hefyd oedd gêm ola’r Cymro Cymraeg Jeff Evans yn dyfarnu mewn gemau pedwar diwrnod cyn iddo ymddeol, ac fe gafodd yntau’r un gymeradwyaeth.

Fe fu ymgyrch bêl goch Morgannwg yn destun siom eleni, wrth i’w batwyr fethu â thanio dro ar ôl tro er iddyn nhw gael eu cylchdroi a sawl chwaraewr ifanc yn cael cyfle yn y canol.

Dechrau’n addawol

Wrth gwrso 331 i ennill, dechreuodd Morgannwg y diwrnod olaf ar naw heb golled, gan gyrraedd 69 am ddwy erbyn amser cinio cyn i Nick Selman daro 73 wrth amddiffyn yn galed i achub y gêm ar frig y batiad.

Roedd Joe Cooke, y batiwr llaw chwith 23 oed, hefyd dan y chwyddwydr yn ei ail gêm bêl goch i’r sir wrth iddi ddod yn amlwg yn gynnar yn y dydd mai amddiffyn fyddai tacteg Morgannwg am weddill y dydd.

Ochr yn ochr â Selman, llwyddodd e i oresgyn y frwydr gynnar yn erbyn y bowlwyr agoriadol Oliver Hannon-Dalby a Liam Norwell.

Ond ar ôl batio’n amddiffynnol ac yn amyneddgar am yr awr gyntaf, collodd Morgannwg ddwy wiced oddi ar belenni olynol gan Ryan Sidebottom wrth i Cooke ergydio’n ansicr at y wicedwr Michael Burgess cyn i Owen Morgan – y Cymro Cymraeg arall yn y gêm – gael ei fowlio gan belen lawn wyrodd yn ôl at y wiced.

Colli’u ffordd yn y prynhawn

Fe fyddai Morgannwg wedi bod yn cwestiynu’r dacteg amddiffynnol ar ôl cinio pan gafodd Chris Cooke ei ddal gan y wicedwr wrth geisio chwarae’n amddiffynnol yn erbyn Hannon-Dalby i’r ochr agored.

Roedd y chwe phelawd hynny’n allweddol i’r ornest, wrth i Swydd Warwick fynd ar y droed flaen, er i Nick Selman gyrraedd ei hanner canred oddi ar 146 o belenni.

Dechreuodd Billy Root yn amddiffynnol, gan aros tan ei unfed belen ar ddeg i sgorio’i rediad cyntaf ac er iddo fe daro’i ergyd gyntaf i’r ffin ddwy belen yn ddiweddarach, fe wnaeth y belen ganlynol ddarganfod ymyl ei fat i roi daliad i Sam Hain yn y slip wrth i Hannon-Dalby gipio wiced arall.

Roedd Selman yn ddi-guro ar 62 a’i bartner Callum Taylor heb fod allan ar 14 erbyn amser te, ac roedd angen 187 o rediadau eto ar Forgannwg yn y sesiwn olaf – a chwe wiced oedd y nod i’r ymwelwyr.

Cael a chael ar ôl te

Digon araf oedd batio Morgannwg yn gynnar yn y sesiwn olaf, a phrin oedd y cyfleoedd i’r ymwelwyr gipio wice cyn i Callum Taylor geisio amddiffyn pelen uchel gan Ryan Sidebottom a darganfod y maeswr agos ar ochr y goes.

Roedd e wedi treulio 29 pelawd wrth y llain wrth adeiladu partneriaeth o 67 gyda Selman.

Daeth y wiced fawr pan darodd Hannon-Dalby goes Selman o flaen y wiced am 73, gyda’r batiwr wedi wynebu 215 o belenni erbyn hynny, ond roedd peth amheuaeth am uchder y belen.

Roedd gan Forgannwg 18.5 o belawdau’n weddill i’w goroesi os oedden nhw am osgoi colli eto.

Doedd dim amheuaeth fod Tom Cullen allan, fodd bynnag, wrth i’r troellwr Alex Thomson gipio’i wiced gyntaf yn y gêm.

Dilynodd Dan Douthwaite yn fuan wedyn, wrth daro pelen weddol uchel gan Sidebottom at y wicedwr Burgess.

Roedd yr ymwelwyr gam yn nes at y fuddugoliaeth pan gafodd Lukas Carey ei ddal gan Hain yn y slip oddi ar fowlio Hannon-Dalby, ei bedwaredd wiced yn y batiad.

Ond batiodd Michael Hogan a Timm van der Gugten am dair pelawd hyd y diwedd.

Bydd y timau’n wynebu ei gilydd eto nos Wener, wrth i Forgannwg deithio i Edgbaston ar gyfer gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.

Sgorfwrdd