Mae Clwb Criced Morgannwg wedi penderfynu peidio ag adnewyddu cytundebau dau Gymro – y troellwr Kieran Bull a’r batiwr Connor Brown.

Bydd y ddau yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.

Chwaraeodd Bull mewn gêm dosbarth cyntaf am y tro cyntaf yn 2014, gan fynd yn ei flaen i chwarae mewn cyfanswm o 14 o gemau dosbarth cyntaf a dwy gêm undydd i’r clwb.

Chwaraeodd Brown mewn wyth gêm dosbarth cyntaf a thair gêm undydd.

‘Siom’

“Mae hi bob amser yn destun siom pan fo chwaraewyr yn gadael y clwb, yn enwedig pan bo nhw wedi dod trwy lwybrau Morgannwg,” meddai Mark Wallace, cyfarwyddwr criced y sir.

“Hoffwn ddiolch i Kieran a Connor ill dau am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i’r clwb, a dw i’n dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”