Mae Stryd Downing wedi gwadu honiadau gan Lywodraeth Cymru bod Bil y Farchnad Fewnol yn “dwyn pwerau oddi wrth weinyddiaethau datganoledig”.

Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi disgrifio cyhoeddi Bil y Farchnad Fewnol fel “diwrnod gwael iawn” i’r Deyrnas Unedig ac yn “gipiad enfawr o bŵer”.

‘Dim newid i bwerau datganoledig’

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog, Boris Johnson, na fydd unrhyw newid i bwerau sydd eisoes wedi’u datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ôl y llefarydd bydd cynnydd yn y pwerau mewn gwirionedd oherwydd bydd “mwyafrif llethol” y pwerau sy’n dychwelyd o Frwsel yn cael eu datganoli i Gaerdydd, Caeredin a Belffast.

“Pan mae pwerau’n cael eu cadw’n ganolog mae’n digwydd er mwyn diogelu’r economi, swyddi a buddsoddiadau”, meddai.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth yr Alban yn ystyried camau cyfreithiol i rwystro’r ddeddf newydd, ac mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud mai annibyniaeth yw’r “unig ffordd” i sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei gwarchod.

Baner yr Undeb ar brosiectau?

Nid oedd modd i Stryd Downing ddweud a fyddai prosiectau a ariennir gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu brandio â baner yr undeb – mae prosiectau’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn cael eu brandio.