Mae’r David Melding AS wedi ymddiswyddo fel Cwnsler Cyffredinol Cysgodol y Ceidwadwyr.

Mewn llythyr at Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, eglurodd y byddai’n cefnogi’r blaid o’r meinciau cefn o hyn allan.

“Mae gennyf amheuon ers cryn amser am ddulliau Llywodraeth y DU i geisio datblygu perthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd.

“Dydy’r cyhoeddiad heddiw ar Fil y Farchnad Fewnol heb wneud dim i leihau fy mhryderon ynghylch y peryglon sy’n wynebu ein hundeb 313 oed.

“I ddweud y gwir maent wedi’u gwaethygu’n ddifrifol gan y penderfyniadau a wnaed yn ystod y dyddiau diwethaf gan y Prif Weinidog [Boris Johnson].

“Mae’n amlwg felly nad yw’n ymarferol i mi barhau yn fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol Cysgodol tra bod gennyf amheuon o’r fath.”

Cafodd David Melding ei ethol yn Aelod Cynulliad adeg agor y sefydliad yn 1999.

Bydd yn camu o’i sedd yn 2021.

Ymateb yr Arweinydd

Mewn ymateb, dywedodd Mr Davies:

“Mae’n ddrwg gennyf golli David o’m cabinet cysgodol, mae wedi bod yn llysgennad gwych dros y Ceidwadwyr Cymreig dros yr 20 mlynedd y mae wedi bod yn Aelod o Senedd Cymru.

“Rwy’n ddiolchgar y bydd yn parhau i’m cefnogi o’r meinciau cefn.”

***

Ymgynghorydd gwleidyddol blaenllaw yn ymuno â’r Blaid Geidwadol

Ar yr un diwrnod mae’r ymgynghorydd gwleidyddol Daran Hill, sylfaenydd cwmni Positif Politics, cyn-aelod o’r Blaid Lafur, a chyn-gydlynydd yr ymgyrch Ie dros Gymru, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â’r Blaid Geidwadol, er ei fod yn dweud na fydd “yn sefyll fy hun nac yn cyflwyno fy hun ar gyfer rhestr ymgeiswyr Ceidwadwyr Cymru cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.”