Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwelwyd y nifer uchaf o achosion o’r coronafeirws ddydd Mercher yng Nghaerffili, gyda 33 o achosion newydd.
Gwelodd Rhondda Cynon Taf gynnydd o 20 achos, tra bod gan Gasnewydd 18 o achosion newydd. Roedd 13 achos newydd yng Nghaerdydd, a 12 ym Merthyr Tudful.
Cynnydd sylweddol
Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn pryderu am y cynnydd sylweddol mewn achosion o’r coronafeirws yn ardaloedd Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf dros y dyddiau diwethaf, ac mae ein hymchwiliadau’n dangos bod diffyg ymbellhau cymdeithasol gan bobl o bob grŵp oedran mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol wedi arwain at ledaenu’r feirws i rannau eraill o’r boblogaeth.
“Mae’n ymddangos, wrth i gyfyngiadau cloi gael eu llacio, fod pobl wedi manteisio ar y posibiliadau mwy i wneud gweithgareddau, ond mae’n ymddangos eu bod wedi anghofio pwysigrwydd ymbellhau cymdeithasol – gan arwain at drosglwyddo posibl yn y gymuned ehangach.”
Beth i’w wneud?
Rhaid i unrhyw un sy’n amau bod ganddynt symptomau COVID-19, sef tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus neu golli synnwyr blasu neu arogli (anosmia), hunanynysu a chael prawf ar unwaith.
Mae mynd ati i gael prawf Coronafeirws yn rhad ac am ddim ac yn syml, a gellir gwneud hyn naill ai trwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu trwy ffonio’r rhif rhad ac am ddim 119.