Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ohirio dechrau’r gwaith ar ffordd osgoi Llandeilo unwaith eto.
Yn 2016 daeth y Prif Weinidog Mark Drakeford, a oedd yn Weinidog Cyllid Llafur ar y pryd, i gytundeb ag Adam Price, o Blaid Cymru, i neilltuo £50 miliwn i ariannu’r ffordd osgoi.
Roedd y gwaith i fod i ddechrau yn Llandeilo flwyddyn nesaf, ond mae wedi ei ohirio tan 2025/26.
Mae traffig trwm yn mynd drwy dref Llandeilo ar yr A483, gan achosi tagfeydd traffig, ansawdd aer gwael, a pherygl i gerddwyr, ac mae trigolion Llandeilo wedi bod yn gofyn am ffordd osgoi ers oddeutu 40 mlynedd.
“Sefyllfa druenus”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole, ei bod yn sefyllfa druenus.
“Bydd tre Llandeilo ar ei cholled mewn sawl ffordd” yn sgil y gohirio, meddai Emlyn Dole.
“Bydd plant sy’n cerdded i’r ysgol a cherddwyr eraill ar eu colled trwy orfod cerdded trwy aer o ansawdd gwael.
“Bydd busnesau ar eu colled oherwydd y tagfeydd.”
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnu ar bobl Llandeilo,” rhybuddion y Cynghorydd Dole.
“Ond, gallwn newid pum mlynedd (o ohirio) i saith mis trwy gael gwared ar Lafur fis Mai nesaf ac ethol llywodraeth Plaid Cymru sy’n cadw at ei addewidion ac yn cyflawni gwaith mewn pryd.”
Gofynnodd y Cynghorydd Carl Harris, “sawl gwaith eto fydd raid i bobl Sir Gâr gael eu siomi gan y Llywodraeth Lafur yma?”
“Dylai’r Blaid Lafur roi’r gorau i symud y goalposts ac anrhydeddu’r cytundeb,” mynnodd Carl Harris.
Siom, syndod a dicter
Dywedodd y cynghorydd Hazel Evans, sydd yn aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros briffyrdd, iddi gael ei siomi’n fawr gan lythyr Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, ynghylch gohirio’r gwaith ar y ffordd osgoi.
“Hoffwn wybod ble mae’r cyllid hwn wedi ei wario?” gofynnodd.
Ymatebodd yr aelodau mewn syndod a dicter i ymgais arweinydd y grŵp Llafur, y Cynghorydd Rob James, i feio’r oedi ar y pandemig, gan fod y cynlluniau i ddechrau’r ffordd osgoi mewn lle cyn y coronafeirws.
Cynigiwyd Rhybudd Gynnig oedd yn gresynu at yr oedi ac yn condemnio Llywodraeth Cymru am ohirio’r gwaith gan y Cynghorydd Edward Thomas, aelod o’r glymblaid Plaid Cymru-Annibynnol sy’n rhedeg cyngor Sir Gaerfyrddin.
Pasiwyd y Rhybudd Gynnig â chefnogaeth gref.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“I sicrhau ein bod yn darparu’r manteision gorau posibl, rydym yn dilyn prosesau gwerthuso manwl, yn ogystal â sicrhau bod adborth rhanddeiliaid a lleisiau pobl leol yn cael eu hystyried. Mae hyn yng nghyd-destun y cyfyngiadau sydd yn eu lle yn sgil y coronafeirws sy’n effeithio ar ein ffordd i weithio.
“Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin i wneud gwelliannau yn y tymor byr, canolig a hir. Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i ddarparu’r cynllun fel rhan o ymdrech ehangach i wella trafnidiaeth yn yr ardal leol.”